Brwydr y Bandiau...
Heb ysgrifennu ers stalwm oherwydd fy mod i wedi bod ar daith i'r gogledd a'r canolbarth i gyflwyno Brwydr y Bandiau. Roedd y safon yn wych yn y gogledd, a roedd yn dda gweld bod talent ar ei ffordd. I feddwl bod y bandiau yn ifanc, roedden nhw'n well perfformwyr na rhai o fandiau sydd wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd! Rwy'n llawn cyffro ar gyfer sioe fawr y rowndiau cyn derfynol ar C2 wythnos nesa. Fydd o'n wych!
Arwahan i hynny, es ar Uned 5 dydd gwener - neis gweld pawb eto. Roeddwn i, Lisa Gwilym a Daniel Glyn ar y sioe, felly C2 oedd Uned 5! Oh Ie, rwy'n 5ed ar 'her y ser' - yn amlwg mae'r holl wersi gyrru wedi cael effaith, a na, dydw i ddim yn cael trafferth gyda fy chwith a dde rwan! Mae hynny yn sgil rwyf wedi ei feistrioli dros y misoedd diwethaf. Hahaha!
Heddiw yn ddiwrnod heulog dros ben. Cymerais rhan mewn cystadleuaeth tenis 'dwblau i ddynion'. Roedd yn wych cael chware yn y gwres, er y bu i mi a fy mhartner Wing golli yn y rownd gyntaf 6-2, 7-6 (colli i 4 yn y tie-brêc) -oll oedden ni isho odd mefus a hufen ac yna byddwn fel fy mod i'n chwarae yn Wimbeldon (yn y dychymyg felly hahaha). Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod arbennig, mae fel petai fy mod i mewn gwlad gwahanol, gwers sbaeneg y bore ma' a haul poeth am unwaith yn edrych arnaf yn chwarae tenis heb fy nhop ymlaen. Bywyd yn fantastic!
Hwyl am y tro
Glyn
x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.