Band newydd Dyl Mei angen cantores
Helo
Newydd fod ar Facebook efo Dyl Mei (cyn-aelod y Genod Droog a chynhyrchydd lot o fandiau eraill) a da ni'n dau wedi dod i'r casgliad fod angen band newydd pop Cymraeg i lenwi twll grwpiau fel Frizbee, Swci Boscawen, Genod Droog ayyb.
Dwi wedi bod ddigon gwirion i gynnig Sesiwn C2 i'r band dychmygol yma os fedrith o ffurfio band pop gwych cyn i Stiwdio Blaen y Cae gau am y tro olaf mis Ebrill. Felly, os da chi isho canu/chwara ym mand newydd Dyl Mei, ebostiwch fi ac fe wnai basio eich manylion ymlaen!!
Yn benodol, ma Dyl ffansi hogan i ganu - cantores hefo bach o "grit" sy'n edrych yn dda (!), ac sydd dros 18 i fedru mynd i leoliadau'r gigs. Hoffai Dyl ddeud hefyd nad ydy o eisiau neb o'r enw "Julie" yn y band, felly ymddiheuriadau Julie, ond chei di ddim canu.
Felly, os da chi awydd bod ar y recordiad olaf o Blaen y Cae, ebostiwch
Diolch
Gareth
Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.