« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Sengl Tan Lan ac album Bob

Categorïau:

Gareth Iwan|11:52, Dydd Gwener, 13 Chwefror 2009

Neithiwr fe wnaeth Lisa chwara sengl Alun Tan Lan, a rhoi cipolwg exclusive ar album BOB!

Mae swn sengl Alun yn wahanol iawn i'r 3 album da ni wedi glywed hyd yn hyn. Mae Griff Eitha Tal Ffranco yn chwarae'r organ ar y gan, sy'n syth yn rhoi swn "pop" i'r gan. Mae'r gan arall ar y sengl hefyd yn ddifyr iawn - "Mae Pobol Yn Greulon" gyda Euron Jones yn serenu yn offerynnol ar hono, a bydd Lis yn ei chwarae heno.

Hefyd neithiwr, 2 drac o album newydd Bob. Dylid pwysleisio mae mixes cynnar ydy'r rhain, ond mae'n nhw'n gret, yn roc pync-aidd pwerus. Bydd yr album allan yn yr haf.

Ac os wnaethoch chi fwynhau sgwrs Ritzy o'r Joy Formidable neithiwr, fe allwch chi lawrlwytho'r album am ddim o safle'r NME heddiw (am ddiwrnod yn unig) neu o myspace y band o ddydd Llun ymlaen.

Ac i wrando nol ar raglen neithiwr, cliciwch yn fama!