« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Can I Gymru 2009!

Categorïau:

Gareth Iwan|12:52, Dydd Llun, 16 Chwefror 2009

Da ni bellach yng nghanol mis Chwefror, sy'n golygu fod Can i Gymru 2009 ar y gorwel. Tydw i heb glywed y caneuon sydd ar y rhestr fer eleni, felly o'n i'n meddwl byswn i'n taflu golwg yn ol ar rai o'r cyn-enillwyr i weld pa un ydy'r gan ora erioed! (Bydd cyfle i glywed caneuon eleni ar raglenni Jonsi, Eleri a Daf a slot hwyr C2 o fory ymlaen)

Margaret Williams enillodd y gyntaf nol yn 1969 hefo Y Cwilt Cymreig (enw'r gystadleuaeth ar y pryd oedd "Can Disg a Dawn") ond ma rhaid disgwyl tan 1972 am y glasur gyntaf - Pan Ddaw'r Dydd gan Heather Jones. Ma llais Heather yn hollol wych, ac mae'r geiria a'r alaw gan Geraint Jarman yn hyfryd, ond eto'n ddigon 'catchy' i fod yn bop gwych.

Os fuoch chi'n gwrando ar Hen Bethe Crwn ar Radio Cymru, mi fyddwch chi'n gyfarwydd hefo Caledfwlch gan Bran o 1975 - cymysgedd o prog roc a gwerin sy'n gweithio'n syndod o dda.

Er fod yn well gen i fersiwn Geraint Lovgreen ei hun, mae Nid Llwynog Oedd yr Haul gan Bando o 1982 yn un o'r goreuon hefyd, gyda geiriau Myrddin ap Dafydd yn rai ma pawb yn eu cofio.

1984 - Y Cwm. Amhosib cael rhestr goreuon Can i Gymru heb hon, ac er mai fersiwn Chis ma pawb yn ei gofio erbyn hyn - Geraint Griffiths nath ganu'r gan i Can i Gymru. A 1990 wedyn - Gwlad y Rasta Gwyn gan Sobin - cheesy ond ma pawb yn ei chofio hi.

Dwi ddim mor hoff o'r caneuon ar ol 1990, felly dyma'r "top 5":

1. Heather Jones - Pan Ddaw'r Dydd

2. Geraint Griffiths - Y Cwm

3. Bran - Caledfwlch

4. Bando - Nid Llwynog Oedd yr Haul

5. Sobin a'r Smaeliaid - Gwlad Y Rasta Gwyn

A dyma restr o'r enillwyr i gyd i chi gael gwneud eich rhestr eich hunain!!