« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Glyn yn Galw!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|18:51, Dydd Mercher, 11 Chwefror 2009

Hwre, mae 'Glyn yn Galw' yn ôl, gallai ddim aros tan heno! Mae gen i atgofion melys o fyfyrwyr yn gwneud pethau gwyllt a gwyrion i lawr y ffôn. Hahaha!

Un o fy hoff 'Glyn yn Galw' oedd bachgen o Aberystwyth yn mynd i siop i ofyn am sachau dyrnu yn fyw ar y radio. Roedd o mor ddoniol, roedd yn anodd cyflwyno'r sioe.

Un arall da oedd merch yn ffonio ei ffrind, a cyfaddef ei bod yn hoyw a'i bod â theimladau tuag ati. Ond, fy ffefryn, oedd grwp o ferched yn rhedeg i dy lle oedd bechgyn yn eistedd llawn cyffro yn gwylio gem bwysig pel droed.

Yna, fe wnaeth y merched droi y sianel a mynnu eu bod am wylio '4 Wal' oedd ar S4C. Roedd o mor dda clywed y bechgyn yn gwylltio! Gobeithio bydd heno cystal!

Glyn x