« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Hen Bethe Crwn, a Lisa hefo Sibrydion a Joy Formidable

Categorïau:

Gareth Iwan|15:11, Dydd Iau, 20 Tachwedd 2008

Helo bobol

Ma hi wedi bod yn gyfnod prysur iawn i mi yn ddiweddar. Dwi 'di bod yn gweithio ar Hen Bethe Crwn, yn trio cadw trefn ar Dyl Mei a Huw Evans wrth iddyn nhw ddechra' ar gyfres arall yn edrych ar hen vinyl Cymraeg. Os wnaethoch chi fethu'r rhaglen gyntaf neithiwr, ma na dudalen i'r rhaglen yn fama. Wsnos nesa mi fydda ni'n edrych ar Hiraeth gan Endaf Emlyn, ac ma Rich James wedi recordio fersiwn anhygoel o Dwynwen yn arbennig ar gyfer y rhaglen. Ac os da chi isho gwybod sut y gwnaeth Dyl Mei dorri ei fawd cyn gig olaf y Genod Droog... na, well i mi beidio son am hynny.

Ma 'na hefyd lot o betha' gwych ar raglen Lisa heno. Mi oedd Lis yng ngwyl Swn dros y penwythnos, ac mae hi wedi cael gafael ar album Saesneg newydd Sibrydion a sengl Joy Formidable. Mi fydda nhw'n cael eu chwara ar y radio am y tro cyntaf heno am 10pm, ac yn amlwg, mi gewch chi glywed holl hanes yr wyl gan Lisa