« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ffrae 'High 5' a bywyd coleg!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|19:51, Dydd Mercher, 12 Tachwedd 2008

Helo, newydd ddod mewn i swyddfa y BBC, yn llawn chwys ar ol i rhyw foi ceisio cael ffrae efo fi. Ond, camgymeriad oedd o, gwelais i o yn dod rownd y gornel ar ei feic, yn rhoi ei fraich allan i droi i'rchwith, cymerais i mai eisiau 'high 5' oedd o. Felly, mi wnaeth ddisgyn oddi ar ei feic a troi i wylltio arnaf. Gret, hahah! Ond dwin iawn rwan.

Rwy'n argymell i bawb fynd i coleg, unwaith yn eu bywydau. Mae yn fywyd brill heb yr un eiliad o ddiflastod. Rwy'n aros mewn neuadd fawr yn ganol Caerdydd, gyda lot o fyfyrwyr gwyllt a gwirion i gadw cwmpeini. Y cwrs Cymraeg a Sbaeneg, wel, mae safon fy Ngymraeg wedi mynd yn benigamp, hahaha, a Sbaeneg, no comprendo, ia, dyna'r oll dwi'n gwbod ar sut i ateb cwestiynau yr athrawes, ugh, mae prawf dydd Gwener nesaf!

Nos Fercher yw'r uchafbwynt i gael gwaethio gyda yr hyfryd Magi Dodd. Edrych ymlaen i'r Cwis Pop heno, mae'r safon yn aruthrol blwyddyn yma, pwy fydd yn fuddugol tybed? Wel, yr unig ffordd i wybod, yw gwrando ar C2 pob nos Fercher rhwng 8 a 10, rwy'n siwr na chewch eich siomi.

Hwyl am y tro,

Glyn.