« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Y diweddara o Daith Bandit / C2

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|15:57, Dydd Mercher, 8 Hydref 2008

Helo!

Dyma fi yn blogio o ysgol Aberteifi - ysgol lyfli yw hi fyd. Pawb yn gyfeillgar ac yn neis.

O fi'n grympi bore ma pan nath Sian ddod i nol fi o'r gwesty yn Llambed am 7 y bore, ond nes i rili joio ar ol cyrraedd yr ysgol.

Gethon ni weithdy radio ace yn y bore gyda Iwan a Steffan yn cyflwyno, Lisa yn cynhyrchu a Daniel a Sion yn dechnegwyr. Roedd pawb yn bril.

Roedd y gig yn y pnawn yn fab gydag Ashokan ar dân. Ma nhw'n wych yn fyw, ac allai'm aros i weld nhw eto fory yn Aberaeron.

Welai chi cyn hir!

Magi xxx

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:39 ar 8 Hydref 2008, Iwan Williams ysgrifennodd:

    helo iwan sydd ma enwest t fi yn dy flog ! ha ha roedd heddyw yn sbort.diolch

    iwan

  • 2. Am 09:34 ar 10 Hydref 2008, Gwen ysgrifennodd:

    Annwyl Magi

    Wedi gweld 'Yr Offbeats' ddoe yn Ysgol Aberaeron wedi eu mwynhau n fawr iawn - dyfodol disglair iawn ir band ifanc yma o Ysgol Y Preseli rwyn credu.