Y Dodd ar Daith....
Beth fyddwch chi'n neud dros y penwythnos? Mynd i siopa? Gwylio gêm bêl-droed neu rygbi? Aros yn y gwely? (neis)
Fi? Fyddai'n paratoi yn feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer Taith Bandit C2 2008! Allai'm aros! Ma' leni'n mynd i fod yn well nag erioed o'r blaen.
Os dych chi ddim yn gwbod be yw Taith Bandit C2 - nai weud wrthoch chi; y daith gerddorol ore yn y byd i gyd (yn fy marn i wrth gwrs!)
Mi fydd criw C2 a Bandit yn pacio'n bagie ac yn llwytho ein tour bus arbennig, ac am fis cyfan yn ymweld ag 20 o ysgolion dros Gymru. Dyn ni ddim yn mynd ar ein penne ein hunan, achos er bo Huw Evans yn gyflwynydd arbennig dyw e ddim yn gallu canu'n dda iawn (a fi? wel - chi di clywed Cân am Sanna??) - felly ryn ni'n taflu rhai o fandie gore Cymru mewn i sedd gefn y bws!
Llynedd Y Rei oedd band y daith - ac roedden nhw'n anhygoel, felly ryn ni di gwahodd nhw nol leni. Nhw fydd y prif fand yn ystod yr wythnos gynta'.
Y Khan mawreddog fydd yn neud i chi moshio yn ystod yr ail wythnos.
Os ryn ni'n dod i'ch ysgol yn ystod y drydedd wythnos - Frizbee fydd yn neud i chi rocio
A llais hudolus Elin Fflur fydd yn cloi'r daith - hi fydd 'da ni yn ystod yr wythnos ola. (dim just ei llais hi - fydd hi yna hefyd!)
Fyddwn ni hefyd yn rhoi cyfle i chi fod yn Dj's ac yn gyflwynwyr teledu. Fydd eich llunie chi lan ar safle gwe c2 bob dydd a newn ni chware eich dewisiade cerddorol bob nos ar C2. Mewn gair bobol - mae'n mynd i fod yn blwmin brilliant!
Fyddai'n sgwnnu blog dyddiol o bob ysgol fyddai'n ymweld â hi. Fyddai hefyd yn gwisgo outfit gwahanol bob dydd - y bwriad yw trio gweddu fy ngwisg gyda'ch gwisg ysgol chi. Falle eith pethe yn Pete Tong os oes gyda chi wisg ysgol melyn a brown ne rwbeth - ond nai drio. Addo.
Os chi ise gweld os ryn ni'n dod i'ch ysgol - ewch i bbc.co.uk/c2
Reit bobol - fi'n mynd i ddechre pacio - gobeithio welai chi cyn bo hir!
M x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.