Archifau 8 Hydref 2008

Y diweddara o Daith Bandit / C2

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|15:57, Dydd Mercher, 8 Hydref 2008

Sylwadau (2)

Helo!

Dyma fi yn blogio o ysgol Aberteifi - ysgol lyfli yw hi fyd. Pawb yn gyfeillgar ac yn neis.

O fi'n grympi bore ma pan nath Sian ddod i nol fi o'r gwesty yn Llambed am 7 y bore, ond nes i rili joio ar ol cyrraedd yr ysgol.

Gethon ni weithdy radio ace yn y bore gyda Iwan a Steffan yn cyflwyno, Lisa yn cynhyrchu a Daniel a Sion yn dechnegwyr. Roedd pawb yn bril.

Roedd y gig yn y pnawn yn fab gydag Ashokan ar dân. Ma nhw'n wych yn fyw, ac allai'm aros i weld nhw eto fory yn Aberaeron.

Welai chi cyn hir!

Magi xxx