« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dodd Wan...

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|19:03, Dydd Mercher, 3 Medi 2008

Helo, dyma fi Dodd Wan, chwaer ysbrydol y steilydd ffasiwn Gok Wan. Fi'n mynd i adel chi gwybod be ddylech chi fod yn gwisgo dros fisoedd yr Hydref os chi moyn edrych yn hot.

Nath y steilydd Elinor Gardner ddod mewn i'r rhaglen wthnos dwetha felly ma rhaid cyfadde' ma diolch i hi dwi'n gwbod be di be. Co ni off 'de;

Merched

Teits patrymog (na - fi ddim cweit yn siwr chwaith)

Cot liwgar

Jins Flares/Booleg (newyddion da i bobol fel fi sy â phen ôl mawr - ma sgini jins MAS! hwre!)

Tartan (ond peidiwch a gwisgo Tartan o'ch corun i'ch sowdwl neu newch chi edrych fel chav)

Mwclusau a chlustlusau mawr

Bwts fflat

Siacedi wedi eu teilwro (tebyg i siaced tuxedo)

Cryse gwyn



Bechgyn


Cryse sy'n dangos siap y corff

Belts mawr

Jins tywyll

Cryse ti bandie vintage



Felly - na chi y steils allweddol ar gyfer yr hydref. Fyddai ddim eu hangen nhw am bythefnos achos dwi ar fin ffoi i wlad boeth a phell i gael gwylie! Hwre! Hefin Thomas a Mari Lovegreen sy'n edrych ar ol y rhaglen - felly rych chi mewn dwylo saff.

Welai chi mewn penwythos!

M xxx

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 05:05 ar 4 Medi 2008, Alwyn ap Huw ysgrifennodd:

    Y Gorfforaeth Darlledu Brydeinig yn dweud wrthyf be ddyliwn neu be na ddyliwn gwisgo! Son am Nanny State!

    Naw wfft i dy raglen! Mae long johns, bocsars neu briffs yn fater i'r unigolyn - nid fater i'r Bib ei ddeddfu. Wastraff llwyr o arian y sawl sy'n talu leisans!

    Mwy o rwtsh ar S4C, yn lle rhaglenni diddorol, ysywaeth!

  • 2. Am 13:02 ar 8 Medi 2008, Bolgi ysgrifennodd:

    Diolch am y tips ffasiwn Magi. Un cwestiwn - ddylai dynion wisgo crysau sy'n dangos siap y corff os yw siap eu corff yn ymdebygu i dato pôb?