Archifau 3 Medi 2008

Dodd Wan...

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|19:03, Dydd Mercher, 3 Medi 2008

Sylwadau (2)

Helo, dyma fi Dodd Wan, chwaer ysbrydol y steilydd ffasiwn Gok Wan. Fi'n mynd i adel chi gwybod be ddylech chi fod yn gwisgo dros fisoedd yr Hydref os chi moyn edrych yn hot.

Nath y steilydd Elinor Gardner ddod mewn i'r rhaglen wthnos dwetha felly ma rhaid cyfadde' ma diolch i hi dwi'n gwbod be di be. Co ni off 'de;

Merched

Teits patrymog (na - fi ddim cweit yn siwr chwaith)

Cot liwgar

Jins Flares/Booleg (newyddion da i bobol fel fi sy â phen ôl mawr - ma sgini jins MAS! hwre!)

Tartan (ond peidiwch a gwisgo Tartan o'ch corun i'ch sowdwl neu newch chi edrych fel chav)

Mwclusau a chlustlusau mawr

Bwts fflat

Siacedi wedi eu teilwro (tebyg i siaced tuxedo)

Cryse gwyn



Bechgyn


Cryse sy'n dangos siap y corff

Belts mawr

Jins tywyll

Cryse ti bandie vintage



Felly - na chi y steils allweddol ar gyfer yr hydref. Fyddai ddim eu hangen nhw am bythefnos achos dwi ar fin ffoi i wlad boeth a phell i gael gwylie! Hwre! Hefin Thomas a Mari Lovegreen sy'n edrych ar ol y rhaglen - felly rych chi mewn dwylo saff.

Welai chi mewn penwythos!

M xxx