Mae adroddiadau o UFOs yn cael eu gweld dros Gaerdydd. Wyt ti'n credu mewn UFOs?
Wyt ti wedi gweld UFO erioed? Neu yn credu mai nonsens yw'r holl beth? Dyna'r Pwnc Poeth wythnos yma - rho dy farn yn y blwch isod, ni eisiau gwybod!
Wyt ti wedi gweld UFO erioed? Neu yn credu mai nonsens yw'r holl beth? Dyna'r Pwnc Poeth wythnos yma - rho dy farn yn y blwch isod, ni eisiau gwybod!
Helo
Heno ar C2 fyddai'n chware rhai o fy uchafbwyntiau o ŵyl Sonar yn Barcelona lle ro'n i ar y penwthnos. Roedd Neon Neon yn chware yn yr ŵyl gerddoriaeth electroneg. Os chi'n hoffi cerddoriaeth dawns o bob math a bach o haul, mae Sonar yn ŵyl berffaith gyda rhestr o artistiaid hynod o hir a gwahanol. Dj Scotch Egg? Justice? Diplo? Yazzo? Madness? Radioactive Man? Soulwax? Duolks? El Guincho? Bass Clef? Yo Majesty? Ricardo Vilallobos? Roedden nhw i gyd yna, a gewch chi glywed yr hanes tu nôl i'r ŵyl ar C2 heno.
Wthnos i heno bydd fy rhaglen wedi ei recordio yn Glastonbury sy'n digwydd ar y penwthnos. Ydech chi'n mynd? Ebostiwch fi os chi ishe cwrdd lan i gael sgwrs ar y rhaglen am eich uchafwbyntiau chi yn ystod eich penwthnos. Fyddai ar lwyfan y BBC, Introducing, rhan fwyaf o'r penwthnos lle ma Threatmantics a Georgia Ruth Williams yn chware.
Reit, lle ma'r welis yne...