« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Huw yn mynd o ŵyl i ŵyl

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|15:18, Dydd Llun, 23 Mehefin 2008

Helo

Heno ar C2 fyddai'n chware rhai o fy uchafbwyntiau o ŵyl Sonar yn Barcelona lle ro'n i ar y penwthnos. Roedd Neon Neon yn chware yn yr ŵyl gerddoriaeth electroneg. Os chi'n hoffi cerddoriaeth dawns o bob math a bach o haul, mae Sonar yn ŵyl berffaith gyda rhestr o artistiaid hynod o hir a gwahanol. Dj Scotch Egg? Justice? Diplo? Yazzo? Madness? Radioactive Man? Soulwax? Duolks? El Guincho? Bass Clef? Yo Majesty? Ricardo Vilallobos? Roedden nhw i gyd yna, a gewch chi glywed yr hanes tu nôl i'r ŵyl ar C2 heno.

Wthnos i heno bydd fy rhaglen wedi ei recordio yn Glastonbury sy'n digwydd ar y penwthnos. Ydech chi'n mynd? Ebostiwch fi os chi ishe cwrdd lan i gael sgwrs ar y rhaglen am eich uchafwbyntiau chi yn ystod eich penwthnos. Fyddai ar lwyfan y BBC, Introducing, rhan fwyaf o'r penwthnos lle ma Threatmantics a Georgia Ruth Williams yn chware.

Reit, lle ma'r welis yne...