« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Y sioe lwyfan gyntaf!

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|12:00, Dydd Mercher, 30 Mai 2007

Prynhawn heddi roedd Glyn a fi yn gwneud ein sioe lwyfan gyntaf o'r wythnos - loads o blant wedi dod yna i'n gweld ni yn son am C2, Glyn yn darllen ychydig o'i lyfr iddyn nhw, a dau dim yn canu carioci i'r gân Calon gan Diffiniad. Roedd hi mor embarassing, achos roeddwn i'n gwisgo yr run ffrog ag yr roeddwn i'n ei wisgo ar y DVD ar ddechrau'r sioe!!

Roedd y tywydd yn rili od heddi hefyd - roedd hi'n bwrw glaw trwm un funud, ac yna yn rili poeth a heulog y funud nesaf! Oleiaf doedd dim rhaid i fi fynd ar y waltzers eto heddiw!

Pwy sy'n gweud nag yw dynion yn ddiog? Cysgodd Glyn a Robin yr holl ffordd nol o Gaerfyrddin i Gaerdydd - ac roedden nhw'n chwyrnu! Roedd cymaint o fes yng nghefn y car - pacedi losin a chreision gwag, CD's, papurau newydd, cylchgronau porn... gwarthus!

Hwyl

Magi

xx