« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dydd Mercher yn Barod!!!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Mercher, 30 Mai 2007

Oooh grêt.....lie-in heddiw tan 9am. Neis. Wedi cyrraedd y steddfod, gafo ni reid mewn bygi pinc i'r Maes - diolch iti Parker! Ges i fy mobio heddiw gan blant Cymru.

Roeddwn i mewn "mood" gwirion pnawn 'ma, felly pan weles i Alun Planed Plant yn mynd mewn i'r "portaloo", ges i'r ysfa i ysgwyd y toiled a mi gafodd o dipyn o fraw dwi'n meddwl. Nes i hefyd herio Magi D i ddod ar y waltzers. Doedd hi ddim yn hoffi nhw o gwbl felly oni'n dweud wrth y boi am droi ni rownd yn gyflymach a mi roedd hi'n sgrechian i ni stopio! Mi ddaru hi droi rhyw "shade" rhyfedd iawn o wyrdd wrth gerdded off y reiden.

Roedden ni'n cyflwyno'r gystadleuaeth roc a phop pnawn 'ma - nes i rili enjoio'r bandiau. Roedd tri yn cystadlu sef Sancho Panzer, Gringo's Gwirion a Dim Eto. Llongyfarchiadau i Dim Eto o Ysgol y Preseli ddoth yn gynta.

Tan Yfory,

Glyn

xx