Pethau neis a phethau sy ddim yn neis
Dyma sy'n neud fi'n hapus ar hyn o bryd;
- Yr Haul
- Cael tan euraid ar fy ngwyneb.. cuddio gymiant o bechodau
- Yfed g'n'ts yn yr haul gyda fy ffrindiau
- Mynd i Barc y Rhath gydag Alun ar b'nawn Sul braf i ddarllen y papurau trashi
- Chwerthin tan bo fi'n crio
- Paratoi i fynd i Gyprus gydag Alun ar gyfer priodas fy chwaer
- Paratoi i fynd i Verona gydag Alun ar gyfer priodas Bryn
- Dewisiadau cerddorol diweddar BB Aled ar raglen Daf Nos Wener
- Beyonce a Shakira - Beautiful Lier Remix
- Mynd i gigs
- Primark
- Esgidiau Peacoks
- Gordon Ramsey
- Albym 'Bore Da' gan Euros Childs
- Hufen Ia Mars
- Meddwl am Eisteddfod Gen
- Neges y Lost Prophets i fi ar Uned 5
- Anifeiliaid
- Straeon Glyn Wise
- Cael post yn y bore (sy ddim yn bils)
- Tyra Banks
- Grangetown
- Nandos
- Cylchgronau trashi llawn llunie o selebs size zero
- Alun Jones
Dyma'r pethe sy'n neud fi'n anhapus ar hyn o bryd;
- Cynhesu byd eang (ife dyna pam ma' hi mor braf?)
- Canser y croen (dylech chi wastad wisgo SPF)
- Gorfod gweithio pan mae'n braf tu fas
- Hangovers
- Morgrug
- Pobol sy'n gallu bwyta unrhywbeth heb roi pwyse arno (Alun e.e)
- Colli dillad
- Hongian dillad yn y cwpwrdd
- Prinder lle i f'esgidiau yn fy nhy
- Pobol sy'n chwerthin chydig bach rhy uchel - a chi'n gwybod bod e'n ffals-laff
- Sgraps yn Primark (wir, fi wedi cael mwy nag un)
- Creulondeb i anifeiliad
- America's Next Top Model yn dod i ben
- Cael llythyrau cas off y banc
- Bod yn sgint
- myspace
- Beyonce a Shakira - Beautiful Lier (y fersiwn wreiddiol)
- Codi'n gynnar
- Merched sy ond yn enwog am dynnu eu dillad.. Abi Tittmus unrhywun?
Dewch nol i'r dudalen hon yn ystod yr haf gyfeillion. Nai ychwanegu at y ddwy restr yn wythnosol. Hoffwn bwysleisio mai fy marn i yw'r uchod. Just be fi'n hoffi a ddim yn hoffi. Dyw e ddim yn farn y BBC na neb arall. Just fi. Good
Tata
Magi
x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.