« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

5 awr 2 funud a 44 eiliad!!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Sadwrn, 28 Ebrill 2007

Syth ar ôl rhaglen dydd Sadwrn es i draw i Lundain ar gyfer cyfarfod fy rhieni cyn y marathon. Oedd yn rhaid i fi fynd draw i Lundain diwrnod cyn y ras er mwyn nôl fy rhif a pethau eraill gan y trefnwyr.

Dydd Sul - byth eto!! Nes i ddeffro yn y bore yn teimlo ychydig bach yn nerfus, roedd y tywydd yn boeth iawn, ac roedd y syniad o redeg y marathon yn y gwers yn gwneud i fi deimlo'n sâl. Ar ôl dweud ta ta wrth Mam a Dad yn y gwesty, nes i ddal tren i'r llinell gychwyn. wel dyna lle o ni'n meddwl bo fi'n mynd! Nes i ffonio Daf Du i ddweud wrtho fo fy mod i ar y ffordd, ond ddudodd o fy mod i ar y tren anghywir yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Panicio wedyn!! Nes i gyrraedd y llinell gychwyn cywir ugain munud ar ôl i'r ras gychwyn.

Faswn i byth wedi gallu gorffen y ras heb yr holl gefnogaeth oeddwn i'n ei gael gan y miloedd o bobl oedd yn sefyll ar hyd y daith. O ni'n meddwl fy mod i'n rhedeg yn reit dda, nes i fi weld arwydd yn dweud - 'You are now halfway'. Wedyn fatha rhanfwyaf o redwyr ges i gramp!

Oedd Dad wedi dweud wrthai y bydda fo a Mam yn sefyll ar 'London Bridge' yn disgwyl amdanai, ond weles i mohonyn nhw a dechrau ypsetio dipyn bach!

Dyna'r 5 awr 2 funud a 44 eiliad hiraf fy mywyd - byth eto!! Syth ar y tren wedyn yn ôl i Gaerdydd a syth i gwely!

Gwneud fawr ddim byd dydd llun, ond aros yn y gwely, nes i godi i fynd am fassage gan fod fy nghoesau i yn stiff iawn!

Fe dda'th Imogen draw i fy ngweld i dydd Iau. Aethon ni am fwyd i Nandos yn y bae, un o hoff lefydd bwyd y ddau ohonom ni. Nath Imogen ddim bwyta lot gan ei bod hi ar diet. Nol i'r flat i wylio ychydig bach o Big Brother cyn i ni fynd am jacuzzi!

Dydd Gwener nes i ffilmio hysbyseb ar gyfer yr ymgyrch 'Rhowch Waed'. Ges i fynd wedyn efo Imogen a Simon Weston i weld gem rygbi y Gweilch yn erbyn Caerlyr, ges i gwpwl o beints tra oeddwn ni yna, ond gath Imogen ddim gan ei bod h'n trio colli pwysau!

Baftas heno, dwi'n mynd draw i westy St Davids yn y bae ar ôl y rhaglen i gyfarfod Imogen a chriw ffilmio'r rhaglen ddogfen gyda fy tux! Gewch chi' hanes i gyd wythnos nesaf.

Tan tro nesaf!

Hwyl

Glyn

x