Costa del Bari..
Wedi penderfynu rhywbeth heddi. Bydde bywyd yn well tase'r penwythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener, a'r wythnos waith yn dechre ar ddydd Sadwrn a gorffen ar ddydd Sul. Fi'n lyfo penwythnosau. Ma' nhw'n fab. Cymrwch penwythnos dwetha' er enghraifft...
Codi'n fore gyda Alun. Fi'n fforsio fe i neud paned o goffi i fi tra bo fi'n paratoi i fynd i gwaith. Cyn i fi droi rownd, Siân a Glyn yn canu corn tu fas. Siwrne byr i gwaith yn hedfan wrth i Glyn adrodd ei hanesion difyr am personal trainers a merched del.
Rhaglen yn dechre 11.30. Awr o hwyl pur tra a Siân yn trio cadw trefn arnon ni. Syth ar ôl rhaglen, mam, Beth fy chwaer a Ella fy nith yn aros amdanai tu fas. Ma'r haul yn danboeth a'r awyr yn las fel lapizlazuli. Yr unig broblem sy gan y pedar ohono ni yw "Ble ewn ni?"
Ni'n penderfynu mynd i Barc y Rhath i gael picinic. Gethon ni gaws a bara ffresh a mefys a champagne tra'n chwerthin a sgwrsio a gwylio'r byd yn mynd heibio. Nethon ni fwydo'r hwyaid a mynd ar gwch pedlo bach dros y llyn.
Gyda'r nos - nes i eistedd o flaen y teli yn gwylio "Any Dream Will Do" - heb amheuaeth y rhaglen deledu orau erioed. Jondeep heb sideboards. Y boi yna gyda masifdannedd. Daniel yr hunc. Y builder hyll yna. Yr Arglwydd Lloyd Webber (sy, mae'n debyg, â donger masif...). Aros mewn yw'r mynd mas newydd dontcha know.
Dydd Sul dath yr anhygoel Dafydd James draw i wylio Cwpwrdd Dillad gyda fi ac Emma. Roedd un o'n mates gore ni, Lydia ar y rhaglen. Roedd hi'n edrych yn anhygoel ac o ni gyd mor browd ohoni. I ddathlu ei fabulousness, ethon ni lawr y bae (f'ail gartre) i gael cinio Sul. Dath Derfel Williams (sy hefyd wedi bod ar Cwpwrdd Dillad!) ac Iwan Davies (un o adloygwyr ffilm C2!) draw hefyd a nethon ni dreulio'r pnanwn yn sgwrsio, bwyta, yfed, chwerthin, darllen papurau sul a slagio Abi Tittmus off. Perffaith.
Daeth bore dydd Llun, lawer rhy gyflym. Mewn byd delfrydol, fydde'r penwythnos wedi para am byth. Dwi'n mynd i sefyll fel ymgeisydd yn yr Etholiad Cyffredinol nesa'. Fy mhlaid fydd Plaid Penwythnosau yn Rocio. Croeso i chi ymuno yn yr ymgyrch... anfonwch siec i'r cyferiad arferol!
Magi
x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.