Swatio dan y Duvet (hawlfraint Lisa Gwilym 2002)
Ymddiheiriadau ond dydw i ddim yn cofio braidd dim am noson RAP felly allai ddim datgleu llawer am y noson lan yn Llandudno. Dwi'n cofio cyflwyno'r wobr i Genod Droog a cherdded draw i'r parti gyda Caryl Parry Jones a'i merched Miriam ac Elan (o nhw'n lyfli iawn.) Wedyn y peth ola dwi'n cofio yw gweld Ian Cottrel, Gareth Delve a Gethin o Ashokan yn dawnsio gyda cowbell. Ewch draw i galeri C2 i weld Ian yn bwrw cloch mawr Gethin. Neis...
Deffrais bore wedyn ar ben y dillad gwely yn fy nillad i gyd. Popeth. 'Sgidiau, tights, clustlysau, colur - ond a dweud y gwir, roedd mwy o golur ar glustogau gwyn y gwesty nag ar fy nghwyneb. Byth eto. Na rili lawr. Byth eto.
Mewn ymgais i droi fy nghefn ar or-yfed, gor-fwyta, gor-bartio penwythnos RAP, treulias y penwythnos hwn yn cuddio yn fy mwthin bach clud yn Grangetown. (Wel, ma fe'n fwy o grotty terrace na bwthin, ond fi dal yn caru fe.) Tra ath Alun mas gyda'r bois i wylio'r rygbi es i adre a chau'r drws ar y billions o gefnogwyr rygbi/pêl-droed oedd wedi heidio i Gaerdydd.
Yn affodus iawn i fi, ma gen i chippy gore Caerdydd ar ddiwedd fy stryd, felly nath ryw hanner biliwn o'r cefnogwyr benderfynu prynu Clarks Pie a chips oddi yno a nid yn unig neud lot o swn, ond hefyd creu lot o annibendod ar fy stryd. Pam o pam o pam nag yw pobol yn gallu rhoi sbwriel yn y bin? Dyw e ddim yn blincin anodd. Nes i agor y drws fore sul i fynd i brynu News of The Screws a nes i roi fy nhroed mewn tray o chips a curry sauce oer. Ddim yn hapus. Roll on Wembley Stadium....
M x
Newydd ddarllen nôl dros f'egofnod... mmm... ife fi yw e - neu ydw i'n mynd yn hen?

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.