« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cerdded a Cherdded a Cherdded a Cherdded a Cherdded...phew!!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Sadwrn, 3 Mawrth 2007

Ar ôl y rhaglen wsnos dwetha, mi ges i syniad gwych i fynd i gerdded ar hyd Llwybr y Taf. Mi nes i ddragio Sian y Cynhyrchydd hefo fi ag i ffwrdd a ni. Nathon ni benderfynu cerdded i fyny at Castell Coch....trwy'r mwd â ni, nacro fy sgidie yn y broses, ond erbyn i ni gyrraedd am tua 4.30pm, roedd y Castell ar gau! Felly troi yn ôl am adre nathon ni.....a gweld fod ni di cerdded tua 16 milltir!

Dydd Sul a ddydd Llun mi fues i'n chware badminton efo'n ffrindie, ond mi roeddwn i'n reit stiff ar ôl y cerdded pnawn Sadwrn . Dydd Mawrth fues i'n sgwennu rhannau o'm mywgraffiad efo Beca Brown. Mae'n reit ddiddorol trio cofio nôl ar eich bywyd eich hun. Dydd Mercher, wrth gwrs, yw Noson C2. Tacsi mewn i'r Beeb a swper yn y BBC...mmm.

Dydd Iau mi fues i ar noson speed dating yn Aberystwyth a oedd yn cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen newydd ar ITV. Roedd pethe'n mynd yn iawn nes i fi sôn wrth un merch "Mae'n amlwg fod pethe'n mynd yn dda iti, mi rwyt ti wedi cael cusan ar dy wddw" ond mi ddwedodd hi mae man geni oedd o! Wps! Wedyn ddaru rhywun pingio fy mresys a mi nathon nhw frifo fy nipple i felly roedd hwnnw'n sore drwy'r nos wedyn! Aw! Nes i ddim ffeindio cariad yno. Roedden nhw gyd chydig bach yn hyn na fi...

Dydd Gwener fues i'n chware ar y playstation bron iawn drwy'r dydd.

Wel, dwi am fynd rwan - welai chi wythnos nesaf!

Hwyl

Glyn

x