Sâl fel ci ac yn dlawd fel llygoden eglwys....
Nes i ddeffro bore Llun gyda gwddwg tost. Y math o wddwg tost sy'n golygu un peth yn unig... ma' annwyd ar y ffordd. Penderfynu bo hynny'n ddigon o reswm i beidio mynd i'r gym heddi' eto. Nai deffo mynd wythnos nesa'. Dim esgusodion. Serch fy salwch - edrych mlaen at gael mynd i'r gwaith 'cos ma Daf Du nol ar C2 yr wythnos yma felly sdim rhaid i fi boeni am gyflwyno'r Sioe Siartiau. Nice one Cyril...
Ma gen i £2.37 i bara fi tan bo fi'n cae fy nhalu ar ddydd Llun so allai ddim neud unrhywbeth tan hynny. Does gen i felly ddim byd o bwys i rannu 'da chi achos fi di gorfod aros mewn a gwrando ar C2 a gwylio rhaglenni realaeth drwy'r wythnos... (Yr hyn dwi wedi ddysgu o orfod gneud hyn: ( Ma Anthony Cotton deffo mynd i ennill Soap Star Superstar a ma Daf lot gwell cyflwynydd na fi...)
Nes i wirioneddol fwynhau raglen bore Sadwrn. Nes i a Glyn cwerthin nes bo ni'n crio. Ymateb ar y testun ac ar y ffon yn anhygoel unwaith eto. Ma Glyn 'di gofyn i griw C2 draw i'r fflat nos Fercher - mae e di addo coginio swper i ni gyd. Felly os ryn ni gyd yn diodde' o salomella ddydd Iau - chi'n gwbod pwy sy ar fai....
Magi
xxx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.