« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Llond fflat o flodau!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Sadwrn, 13 Ionawr 2007

Ar ôl Rhaglen dydd Sadwrn nes i ffilmio CBBLB am y tro olaf, oedd yn deimlad od, achos mae BBLB wedi bod yn rhan o'm mywyd ers i mi symud i Gaerdydd ddechrau'r flwyddyn. Ar ôl gorffen ffilmio am y tro olaf, roedd yn rhaid i fi ruthro'n ôl i'r fflat gan fod fy nwy chwaer a fy nai Dylan yn cyrraedd.

Ar ôl dod a holl stwff y babi i fewn i'r fflat, nes i fynd a fy chwiorydd (a'r babi) am dro o amgylch Caerdydd er mwyn dangos y 'sights' iddyn nhw.

Aros fewn wnaethon ni nos Sadwrn, ac ar ôl i Dylan fynd i'w wely mi ges i, Annette a Alison fwyd a gwin tra'n gwylio'r teledu. Nes i ddim cysgu llawer nos Sadwrn gan fod Dylan yn crio!

Dydd Sul aeth y pedwar ohono ni i nofio yn y pwll sydd ar yr un campws a lle dwi'n byw. Yn anffodus tydi Dylan ddim yn hoffi dwr, a mi oedd o'n crio lot!

Ar ôl i'r tri ohonyn nhw adael am y gogledd nes i llnau y golwg oedd yn y fflat cyn mynd i clwb badminton.

Bore dydd Mawrth ges i alwad ffôn gan Siân yn C2 yn dweud fod yna flodau 'di cyrraedd i fi yn nerbynfa'r BBC. Dwi erioed wedi cael blodau o'r blaen, a doedd gen i ddim byd i'w dal nhw yn y fflat. Nes i greu 'vase' fy hun drwy dorri potel coke yn ei hanner, a hefyd es i allan i brynu 'vase'!

Bellach ma'r fflat yn llawn blodau - 3 pot ohonyn nhw i gyd!! Dwi di anghofio sôn gan bwy ges i'r blodau. Wel gan griw cynhyrchu CBBLB! Diolch yn fawr ynde, ond sa well gen i di cael cret o gwrw yn lle!!

Gyda'r nos es i allan efo criw Jen Jeniro gan ei fod hi'n 'naked Tuesday' yn un o glybiau'r dre'! Say no more!!

Nos Fercher noson C2 - a noson y cwis pop. Cwis pop ychydig yn wahanol y tro yma, mi oedd rhaid i fi gystadlu yn erbyn cyn pop brain of Britan Mr Ian Cottrell. Oes rhaid dweud mwy! Nes i ddim ennill, ond nes i drio fy ngorau, y ddau ohonon ni yn gystadleuol iawn iawn.

Nos Wener fath ag arfer Badiminton rhwng 6.30 a 9.30. Yna ges i dacsi draw i Glwb Ifor Bach ar gyfer gig Frizbee a Gola Ola. (Diolch hogia' am roi fy enw ar y drws!) Nes i fwynhau'r gig. Gola Ola yn dda iawn, er fod Rich wedi colli ei lais erbyn y gân olaf a fod rhaid i'w ffrind oedd yn y gynulleidfa ddod mlaen i orffen y gân, lllais da gan Siôn so watch out Rich!!

O'dd Frizbee yn dda fel arfer, nes i ddychryn fod rhanfwyaf o'r gynulleidfa yn gwybod y geiriau i'r set i gyd. Diolch hefyd am y lift adre Frizz!

A dyma fi - wythnos arall di pasio, ac ar fin mynd i stiwdio efo Magi D unwaith eto.

Tan tro nesaf!

Hwyl

Glyn

x