« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Darllen, dillad a dathlu!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Mercher, 17 Ionawr 2007

Wythnos amrywiol iawn i fi eto wythnos yma. Ar ôl rhaglen dydd Sadwrn diwethaf, o' ni di bwriadu mynd adre i'r gogledd, ond nes i ddim cweit ei gwneud hi! Aeth Magi, Siân, Ian Cottrell a fi allan am ginio i'r bae yn syth o'r stiwdio. A'th un botel o win efo bwyd yn boteli a nes i golli'r tren! Es i wylio 'Most Haunted' cyn mynd i fy ngwely, oedd ddim yn syniad da, gan bo fi'n dychmygu bob math o synau gwahanol yn y fflat.

Dydd Sul es i am 'run'. Run cynta'r flwyddyn, gan bo fi wedi cael fy nghofrestru i wneud marathon Llundain fis Ebrill. Mae Daf Du yn gwneud y marathon hefyd, ond mae o'n cymeryd y peth o ddifri, yn rhedeg rhyw 10 milltir bob yn ail ddiwrnod. Ar ôl rhedeg o'r bae i Landaf ac yn ôl (a mynd ar goll yn y broses) tydwi heb redeg wedyn gan bo fi wedi cael Cattarrah!!

Diwrnod prysur dydd Mawrth, nes i ymweld a 3 llyfrgell yng Nghogledd Cymru, yng Nghaernarfon, Llandundo a Llangefni. O ni yna i ddweud wrth bobl i ddefnyddio eu llyfrgell, a pa mor bwysig ydi darllen, ond fatha wythnos diwethaf, nes i dreulio rhanfwyaf y dydd, yn llofnodi lluniau!

Dydd Iau, ges i ddiwrnod gret, es i fewn i ganol y ddinas, a siopa. Nes i brynu dillad newydd ar gyfer gwobrau RAP, llwyth o bethau eraill rhagofn bo fi'n newid fy meddwl, a hefyd presant penblwydd i Dylan John, hogyn fy chwaer oedd yn un oed dydd Sul.

Dydd Gwener, ges i lifft i'r gogledd efo Magi a Siân. Siwrne a hanner, nathon ni adael Caerdydd tua 2 o'r gloch a cyrraedd Blaenau tua 6. Gafodd Mam, Magi a Siân fashion show, nes i drio mlaen fy nillad ar gyfer gwobrau RAP. O ni di mynd am y Jack Tweed look, ond oedd Mam ddim yn hoffi'r braces!

Rhaglen dda iawn dydd Sadwrn, o ni wedi weindio braidd! Gwobrau RAP wedyn gyda'r nos yn Llandudno. O'dd Magi a Fi'n rhoi'r wobr i Artist mwyaf poblogiadd gwrandawyr Radio Cymru. Genod Droog wnaeth ennill.

Parti da wedyn ar ôl y gwobrau, nes i gwrdd a llwyth o bobl, a dawnsio lot!! Ddim ar fy ngorau wedyn bore dydd Sul!

Tan tro nesaf!

Hwyl

Glyn

x