Sut i ddarganfod cymedr, canolrif, modd ac ystod
JEFF Mae Pytiwr o dan bwysau heddiw Janine. Mae angen iddo wella'i gêm!
JANINE Oes wir Jeff, dewch i ni weld sut wnaeth y chwaraewyr eraill ar y twll.
JEFF Dewch i ni ddechrau gyda'r sgôr cymedrig…
JANINE Beth wyt ti'n feddwl Jeff?
JEFF Y cymedr yw'r cyfartaledd. Rydyn ni'n adio sgôr pob person a'i rannu gyda'r nifer o bobl. Felly y cyfartaledd yw 25 ergyd!
JANINE Mae hynny'n uchel…
JEFF Hmmm ydy, achos bod Louie wedi cael sgôr uchel iawn!
JANINE Beth am wirio'r modd?
JEFF Syniad da. Dewch i ni eu rhoi nhw mewn trefn a gweld pa un sy'n ymddangos mwyaf aml, sef tri!
JANINE Gallwn ni hyd yn oed ddarganfod y canolrif Jeff, trwy edrych ar y sgoriau mewn trefn. A'r un yn y canol yw e, sef chwech!
JEFF Ac mae'r ystod gyda ni hefyd, sy'n anferth! Os ydyn ni'n tynnu'r sgôr isaf o'r sgôr uchaf, mae hynny'n 97 ergyd!
JANINE Wps, mae'n edrych fel bod amser y Pytiwr… ar ben!

Y canolrif yw’r gwerth canolog.
I ganfod y canolrif, rho’r rhifau yn eu trefn ac edrycha pa un sydd yng nghanol y rhestr, er enghraifft:
- 3, 3, 6, 13, 100
- 6 yw’r canolrif
Os oes dau werth yn y canol, mae’r canolrif hanner ffordd rhwng y ddau rif. Does dim rhaid iddo fod yn rhif cyfan.


Y modd yw’r rhif sy’n ymddangos amlaf.
I ganfod y modd, trefna’r rhifau o’r isaf i’r uchaf ac edrycha pa rif sy’n ymddangos amlaf, er enghraifft:
- 3, 3, 6, 13, 100
- rhif 3 sy'n ymddangos amlaf yn y rhestr, felly 3 yw’r modd


Y cymedr yw cyfanswm y rhifau wedi’i rannu gyda nifer y rhifau.
I ganfod y cymedr, adia’r holl rifau gyda’i gilydd, wedyn rhanna'r ateb gyda’r nifer o rifau, er enghraifft:
- 6 + 3 + 100 + 3 + 13 = 125
- 125 ÷ 5 = 25
- 25 yw’r cymedr
Dydy’r cymedr ddim bob amser yn rhif cyfan.


Yr ystod yw’r gwahaniaeth rhwng y rhif mwyaf a’r rhif lleiaf.
I ganfod yr ystod, tynna’r rhif isaf o’r rhif uchaf, er enghraifft:
- 100 - 3 = 97
- 97 yw’r ystod

More on Trin data
Find out more by working through a topic
- count4 of 4

- count1 of 4

- count2 of 4
