Sut i ddefnyddio siartiau a thablau i ddatrys problemau.
Beth yw tebygolrwydd?
JEFF Pa mor debygol yw hi y bydd Pytiwr yn llwyddo da'r ergyd hon Janine?
JANINE Y tebygolrwydd?
Wel, bydd rhaid iddo gael y bêl heibio'r felin wynt.
JEFF Sydd â chwe rhan iddi.
JANINE Dyna ni Jeff!
Bydd rhaid iddo osgoi'r tair rhan sy wedi eu gorchuddio…
…a'i gael trwy un o'r tair rhan glir.
JEFF Ond beth yw'r tebygolrwydd iddo lwyddo?
JANINE Dal mlaen Jeff… gallwn ni wneud sym tebygolrwydd!
Gallwn edrych ar y nifer o ffyrdd y gall Pytiwr lwyddo…sef tr…
JANINE a'i rannu gyda'r cyfanswm o bosibiliadau gwahanol… sef chwech. Sy'n rhoi tri dros chwech i ni.
JEFF Wela i Janine! Tri wedi ei rannu gyda chwech yw hanner.
Felly gallwn ddweud bod ganddo siawns o un mewn dau.
JANINE Oooooo, mae di taro'r felin wynt. Beth am edrych eto…
JEFF Do, newidiodd y bachgen y tebygolrwydd.
Cuddiodd ddwy ran arall oedd yn golygu fod
gan y Pytiwr siawns o un mewn chwech yn unig.
JANINE Dyw e ddim yn hapus!
Tebygolrwydd
Tebygolrwydd, neu siawns, yw pa mor debygol o ddigwydd y mae rhywbeth. Os oes gan rywbeth debygolrwydd isel, mae’n annhebygol o ddigwydd.
Os oes gan rywbeth debygolrwydd uchel, mae’n debygol o ddigwydd.
Dangosir tebygolrwydd gan amlaf ar ffurf ffracsiwn. Siawns 1 mewn 2, neu 1/2, yw’r tebygolrwydd o gael ‘cynffon’ wrth daflu ceiniog.
Gallwn ddangos tebygolrwydd hefyd fel degolyn neu ganran. Felly gallwn ddangos tebygolrwydd 1/2 hefyd fel 0.5 neu 50%.
Mae bag yn cynnwys tri banana a dim byd arall.
Mae pob tebygolrwydd ar raddfa rhwng 0 (amhosib) ac 1 (sicr).
Tebygolrwydd rhoi llaw i mewn i’r bag a thynnu banana allan yw 1 (sicr), achos does dim byd arall yn y bag.
Tebygolrwydd rhoi llaw i mewn i’r bag a thynnu afal allan yw 0 (amhosib), achos does dim afalau yn y bag.
More on Trin data
Find out more by working through a topic
- count1 of 4

- count2 of 4
