JEFF Rhaid bod hwn yn record newydd.
Does neb erioed wedi colli cymaint o beli ar un twll.
Rydyn ni'n ymuno â Janine sydd ar y cwrs yn cyfweld â Seimon y Snichyn.
JANINE Diolch Jeff, mae'n rhaid i ni gasglu data ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd.
Snichyn, be sy'n digwydd?
PETE Wel, dwi wedi colli pedair pêl ar y twll hwn, ond rwy'n sicr bydd Pytiwr yn colli mwy!
JEFF Geiriau cryf gan Snichyn yn fanna. Well i ni gadw sgôr.
JANINE Cynnig cynta Pytiwr.
JEFF O, daw honna ddim yn ôl! Un bêl ar goll!
JANINE Ail gynnig!
JEFF O diar, pêl arall wedi ei cholli! O na! Mae wedi colli chwech mewn rhes !
JANINE O leia mae'n derbyn y peth yn dda Jeff!
JEFF Lwcus ein bod ni wedi recordio'r sgôr.
Data / Data
Ystyr ‘data’ yw ‘gwybodaeth’. Gelli di gasglu data drwy eu dangos mewn tablau, siartiau neu graffiau. Wedyn bydd hi’n haws darllen a deall y wybodaeth.
Mae’n bwysig darllen pob rhan o’r tabl, siart neu graff i ganfod beth mae’r wybodaeth yn ei dweud wrthyt ti.
More on Trin data
Find out more by working through a topic
- count2 of 4

- count4 of 4
