Beth yw ymerodraeth?
Ymerodraeth yw casgliad o wledydd neu diroedd sy’n cael eu rheoli gan un brenin, brenhines neu ymerawdwr. Yn aml, mae tiroedd ar gyfer creu ymerodraeth yn cael eu cipio drwy concwestGweithred o gymryd rheolaeth dros wlad neu dir. neu ryfeloedd. Cafodd yr Ymerodraeth Brydeinig ddylanwad ar y bobl a oedd yn byw yn y gwledydd wrth i’w harferion, iaith, gwleidyddiaeth, cyfreithiau a diwylliant gael eu heffeithio.
Yr Ymerodraeth Brydeinig
Dechreuodd sylfaen yr Ymerodraeth Brydeinig yn y 16eg a’r 17eg ganrif, sef y ‘cyfnod o ddarganfod’. Yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, darganfyddodd Humphrey Gilbert, Newfoundland a’i hawlio i Loegr. Anturiaethwr, darganfyddwr ac Aelod Seneddol oedd Gilbert a oedd yn byw rhwng 1539-83. Parhaodd ei hanner brawd, Walter Raleigh i forio gan ddarganfod Ynys Roanoke, sydd yng Ngogledd Carolina heddiw.
Datblygodd yr ymerodraeth ymhellach yn ystod teyrnasiad Iago’r VI, wrth i diroedd yng Ngogledd America a’r Caribî ddod yn rhan o Brydain. Roedd Prydain yn awyddus i fanteisio’n economaidd ar adnoddau o dramor ac ymestyn eu dylanwad ledled y byd. Roedd sefydlu’r East India Company yn yr 17eg ganrif yn enghraifft o hyn. Sefydlwyd y cwmni yn 1600 i fasnachu gyda tiriogaethDarn o dir sy’n cael ei reoli gan wlad neu lywodraeth. de ddwyrain Asia. Parhaodd yr ymerodraeth Brydeinig i ddatblygu ac erbyn 1913, roedd yr ymerodraeth yn cynnwys 412 miliwn o bobl, sef 23 y cant o holl boblogaeth y byd.
Fideo - Ymerodraeth
Ymerodraeth, beth yn union yw e? Grŵp o wledydd sy'n cael eu rheoli gan un brenin neu frenhines. Yn achos Prydain roedd y famwlad yn rheoli gwledydd eraill a thiriogaethau o Brydain o dan un rheolwr.
O'r 16eg ganrif ymlaen dechreuodd Prydain adeiladu ymerodraeth ar draws y byd. Erbyn yr 1750au roedd trefedigaethau Prydeinig ar draws Gogledd America ac India'r Gorllewin.
Erbyn 1900 roedd Prydain yn rheoli bron i chwarter y byd trwy fasnach, rhyfel a meddiannaeth tir. Beth am gymryd golwg agosach.
Roedd y rhan fwyaf o Brydeinwyr yr oes yn meddwl eu bod nhw’n allforio system o ddiwylliant, crefydd a moesoldeb yn ogystal ag economi cryf - gan gynnwys rheilffyrdd a llongau oedd yn cludo nwyddau ar draws y byd.
Ond er gwaetha’r credoau a’r dechnoleg hyn, roedd llawer yn dioddef o dan reolaeth Prydain. Roedden nhw’n ehangu eu diwylliant yn lle meithrin diwylliannau oedd yna’n barod. Er enghraifft, yn Awstralia, fe wnaeth meddiannu tiroedd ac adnoddau y bobl frodorol arwain at newyn.
Yn rhan o hyn hefyd oedd ecsbloetio llafur dynol, sef caethwasiaeth. Pam roedd Cymru a Phrydain yn ymwneud â chaethwasiaeth? Yn anffodus, fel y rhan fwyaf o bethau yn y byd, yr ateb yw arian.
Fe wnaethon nhw chwarae rhan allweddol mewn gwerthu miliynau o bobl Affricanaidd fel pobl wedi’u caethiwo i leoedd fel yr Americas. Hefyd, roedd y trefedigaethau Sbaenaidd, Portiwgeaidd a Ffrengig a sefydlwyd yn Affrica wedi galluogi'r Prydeinwyr i gyfrannu'n sylweddol at y fasnach gaethweision.
Dyma rai o'r bobl o Gymru a oedd yn ymwneud â chaethwasiaeth.
Y teulu Cunliffe o Wrecsam. Fe wnaethon nhw gludo pobl wedi’u caethiwo o Affrica i'r Americas yn eu llongau. Yn yr 1750au roedden nhw’n rhedeg y busnes masnachu caethweision mwyaf yn Lerpwl.
Yna roedd y teulu Pennant. Fe wnaeth Richard Pennant ffortiwn o blanhigfeydd caethweision yn Jamaica, ac fe helpodd hyn iddo ddatblygu'r diwydiant llechi ac adeiladu Castell Penrhyn ger Bangor.
Ar un adeg roedd Syr Thomas Picton, o Hwlffordd yn lywodraethwr ar Trinidad. Roedd yn reolwr milain a wnaeth boenydio a charcharu Louisa Calderon, merch bedair ar ddeg oed oedd wedi ei chyhuddo o ddwyn arian.
Fe oedd y swyddog uchaf ei radd i gael ei ladd ym Mrwydr Waterloo a fe yw'r unig Gymro i gael ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol St Paul. Ar y pryd roedd yn cael ei ystyried yn arwr, ond y dyddiau hyn mae'n ffigwr dadleuol oherwydd ei gysylltiadau gyda chaeswasiaeth. Mae rhai pobl yn anfodlon bod cerfluniau a chofebau wedi ei codi i gofio amdano.
Ond nid pawb oedd yn cytuno gyda chaethwasiaeth. Roedd Cymry eraill yn credu ei fod yn anfoesol, pechadurus ac yn ffordd o ecsbloetio pobl. Roedden nhw eisiau dod â fe i ben ac un o'r rhain oedd William Williams, Pantycelyn, oedd yn enwog am ysgrifennu geiriau emynau fel Arglwydd, arwain trwy'r anialwch neu Guide me o, thou great redeemer yn Saesneg.
Er bod ymerodraethau yn gallu gwneud eu perchnogion yn hynod o gyfoethog a phwerus, mae cost ddynol i'w thalu gan bobl eraill yn aml. Ac er nad oes ymerodraethau yn y byd heddiw, rydyn ni'n ni'n dal yn gallu gweld effeithiau'r rhai sydd wedi hen ddiflannu.
Y fasnach gaethwasiaeth
Roedd llongau enfawr yn cael eu defnyddio i gludo pobl wedi eu caethiwo o Affrica i’r Americas dan amodau erchyll. Bu farw dros dwy filiwn o bobl o Affrica yn ystod y daith. Roedd y bobl wedi eu caethiwo yn gweithio ar blanhigfeydd yn tyfu tybaco, reis a siwgr ac roedden nhw’n cael eu trin mewn ffordd.
Gwnaeth yr elw a wnaed o fasnachu pobl wedi eu caethiwo roi arian i Brydain fuddsoddi mewn diwydiannau a rhoi cyfoeth i ddinasoedd megis Llundain.

Richard Pennant
Gwleidydd ac Arglwydd oedd Richard Pennant, sef Arglwydd Penrhyn, ac roedd yn berchen ar nifer o chwareli llechi yng Ngogledd Cymru. Roedd y teulu hefyd yn berchen ar chwe phlanhigfa siwgr yn Jamaica. Defnyddiodd yr elw o’r planhigfeydd i ddatblygu ei chwareli llechi, yn ogystal ag adeiladu Castell Penrhyn a oedd yn symbol o’i gyfoeth. Yn ei rôl fel Aelod Seneddol Lerpwl, dadleuodd Richard Pennant yn gryf yn erbyn dod â’r fasnach mewn pobl wedi eu caethiwo i ben oherwydd yr elw y gwnaeth porthladd y ddinas ei wneud o’r fasnach.

Syr Thomas Picton
Roedd Syr Thomas Picton yn swyddog y fyddin yn ystod rhyfeloedd NapoleonYmerawdwr (arweinydd) Ffrainc oedd Napoleon rhwng 1804 a 1815 ac arweiniodd Ffrainc mewn cyfnod o ryfeloedd gyda gwledydd Ewropeaidd eraill.. Cafodd ei ladd yn ystod brwydr Waterloo a’i gladdu yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, Llundain.
Yn ystod ei gyfnod fel Llywodraethwr Trinidad, roedd yn adnabyddus am ei ddulliau creulon o drin pobl wedi eu caethiwo. Cafodd ei bledio’n euog am orchymyn i ferch 14 oed gael ei arteithioCam-drin neu gosbi rhywun drwy drais.. Yn 2020, pleidleisiodd Cyngor Caerdydd i gerflun o Picton gael ei dynnu lawr o Neuadd y Ddinas a phenderfynodd Amgueddfa Cymru symud portread ohono allan o olwg y cyhoedd.
Y teulu Bacon
Cafodd Gwaith Haearn Cyfarthfa ym Merthyr ei sefydlu gan Anthony Bacon yn 1765. Roedd Anthony Bacon yn berchen ar longau a gafodd eu defnyddio i gludo pobl wedi eu caethiwo o Affrica i’r Caribî. Yn dilyn hyn, cafodd yr arian ei fuddsoddi yn y Gweithfeydd Haearn.

Mae tystiolaeth fod yr haearn o’r gwaith wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer creu peli canon i longau oedd yn rhan o’r fasnach gaethwasiaeth ac i longau y defnyddiodd yr East India Company. Er nad yw’r cysylltiad yma yn un uniongyrchol, mae castell Cyfarthfa ym Merthyr yn dystiolaeth o’r elw y cafodd ei wneud o gaethwasiaeth.
Y Cymru a oedd yn erbyn y fasnach
William Williams, Pantycelyn
Mae William Williams yn cael ei ystyried fel un o brif emynwyr Cymru gan ei fod wedi ysgrifennu rhai o emynau pwysicaf yr iaith Gymraeg yn y 18fed ganrif. Roedd hefyd yn lleisio ei farn yn erbyn y fasnach gaethwasiaeth. Yn 1792, Williams oedd un o’r Cymry cyntaf i gyhoeddi pamffled a oedd yn gwrthwynebu’r fasnach. Fe wnaeth hefyd gyfieithu storïau bywyd nifer oedd yn arfer bod yn bobl wedi eu caethiwo er mwyn tynnu sylw at greulondeb y fasnach.
Iolo Morganwg
Cymro arall oedd yn lleisio ei farn yn erbyn pobl wedi eu caethiwo oedd sylfaenydd Gorsedd y BeirddCymdeithas o feirdd, llenorion a cherddorion a sefydlwyd gan Iolo Morgannwg yn 1792., Iolo Morganwg. Roedd gan Iolo siop yn y Bont-faen a cheisiodd osgoi gwerthu unrhyw beth a oedd yn gysylltiedig â chaethwasiaeth. Er hyn, roedd dau o frodyr Iolo yn rhan o blanhigfa siwgr yn Jamaica ac yn berchen ar 240 o bobl wedi eu caethiwo. Pan wynebodd ef gyfnod o dlodi, gwrthododd arian gan ei frodyr i’w helpu, er iddo gytuno i’w dderbyn yn y diwedd.
Sut ddaeth y fasnach gaethwasiaeth i ben?
O’r 1770au ym Mhrydain, dechreuodd mudiad i ddod â’r fasnach gaethwasiaeth i ben, sef diddymu caethwasiaeth. Cyfrannodd waith gwleidyddion, gweithwyr arferol, merched a thystiolaeth gan nifer oedd yn arfer bod yn bobl wedi eu caethiwo at y mudiad diddymu caethwasiaeth ym Mhrydain.
Roedd gwleidyddion fel Thomas Clarkson a Granville Sharp yn ddiddymwyr blaenllaw. Yn 1787, gwnaethant sefydlu’r ‘Society for Effecting the Abolition of the Slave Trade’, â’r nod o ymgyrchu dros ddod â’r fasnach i ben. Roedd William Wilberforce yn aelod seneddol a ddechreuodd gyflwyno cynigion gwrth-gaethwasiaeth yn y Senedd o 1789 ymlaen.
Roedd y Crynwyr yn gwrthwynebu’r fasnach gaethwasiaeth ym Mhrydain ac America yn gryf.
Chwaraeodd y dosbarth gweithiol ym Mhrydain rôl allweddol – cafodd dros 500 o deisebDogfen sydd yn gofyn am newid sydd wedi ei lofnodi gan nifer o bobl., gyda dos 390,000 o lofnodion, eu cyflwyno i gefnogi mesur diddymu Wilberforce yn 1792.
Aeth nifer oedd yn arfer bod yn bobl wedi eu caethiwo, fel Olaudah Equiano, Ottobah Cugoano a Phillis Wheatley ati i ymgyrchu dros ddiddymu’r fasnach gaethwasiaeth a sefydlu cymdeithasau, rhannu eu straeon a chyflwyno deisebau i’r Senedd.
Daeth pobl oedd wedi eu caethiwo o hyd i ffyrdd i ddangos eu gwrthwynebiad – cafodd Llywodraeth Prydain sioc o weld gwrthryfeloedd llwyddiannus gan bobl oedd wedi eu caethiwo yn Barbados, Jamaica a Demerara.
Dechreuodd llawer o bobl, a oedd yn ferched gan amlaf, foicotio siwgr a nwyddau eraill a oedd yn cael eu creu gan ddefnyddio pobl wedi eu caethiwo.
Deddf Diddymu’r Fasnach Gaethwasiaeth 1807
Cafodd Deddf Diddymu’r Fasnach Gaethwasiaeth ei phasio yn 1807 ei phasio gan Senedd y DU yn 1807. Daeth hyn â’r broses o brynu a gwerthu pobl a oedd wedi eu caethiwo dan yr Ymerodraeth Brydeinig i ben, ond nid oedd yn gwarchod y bobl a oedd eisoes wedi eu caethiwo. Gwnaeth llawer o gaethiwyddion barhau i fasnachu’n anghyfreithlon.
Deddf Diddymu Caethwasiaeth 1833
Ni chafodd y fasnach gaethwasiaeth ei diddymu’n llwyr yn yr Ymerodraeth Brydeinig tan Deddf Diddymu Caethwasiaeth 1833. Derbyniodd berchenogion planhigfeydd ledled yr Ymerodraeth Brydeinig £20 miliwn, sy’n werth tua £17 biliwn yn arian heddiw, mewn iawndal. I’r gwrthwyneb, ni chafodd y bobl a oedd yn cael eu rhyddhau unrhyw iawndal.

Cwis - Ymerodraeth
More on Hunaniaeth
Find out more by working through a topic
- count1 of 2
