Gwlad y gân

Part ofDyniaethau - HanesHunaniaeth

Er mai gwlad fach yw Cymru gyda phoblogaeth o ychydig dros 3 miliwn, mae’n wlad sy’n cael ei chydnabod am gyfoeth ei diwylliant celfyddydol. Mae ganddi hi ei hunaniaeth ddiwylliannol ei hun, sy’n cael ei hadnabod gan nifer o bobl fel ‘gwlad y gân’.

Fideo - Gwlad y gân

Traddodiad yr eisteddfod

Un o’r prif ddigwyddiadau sy’n arddangos cyfoeth diwylliant celfyddydol Cymru, yw gwŷl yw’r eisteddfod sy’n cynnwys llawer o gystadlaethau gan gynnwys barddoniaeth a cherddoriaeth. Mae’n debyg y cafodd yr eisteddfod cyntaf ei chynnal gan yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi yn 1176. Fodd bynnag, ar ddiwedd y 18fed ganrif y cafodd seiliau’r Eisteddfod Genedlaethol eu gosod.

Dyma’r cyfnod pan sefydlodd Iolo Morganwg ‘Orsedd Beirdd Ynys Prydain’, sef cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion ac unigolion nodedig eraill yn y byd diwylliannol yng Nghymru. Cafodd yr Orsedd ei chysylltu gyda’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn 1819, mewn cyfarfod arbennig yng ngwesty’r Ivy Bush yng Nghaerfyrddin.

Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol swyddogol gyntaf ei chynnal yn Aberdâr yn 1861, ac mae’r ŵyl sy’n gyfarwydd i bobl heddiw yn seiliedig ar y fformat tebyg.

Ffotograff o’r gair ‘Eisteddfod‘ sy’n cael ei arddangos mewn llythrennau mawr coch ar faes yr Eisteddfod bob blwyddyn.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn parhau i gael ei chynnal yn flynyddol dros wythnos ar ddechrau mis Awst. Mae yna wyth diwrnod o gystadlaethau a pherfformiadau, ac mae’n cael ei hadnabod fel yr ŵyl gerddoriaeth a barddoniaeth fwyaf yn Ewrop.

Mae’n denu 6,000 o gystadleuwyr, dros 150,000 o ymwelwyr a tua 250 o stondinau. Y pafiliwn, yw prif lwyfan yr wŷl, lle mae amrywiaeth o gystadlaethau corawl, dawnsio, actio ac ysgrifennu’n cael eu cynnal, er enghraifft.

Fel rhan o wŷl yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Maes B wedi cael ei gynnal ers 1997. Gŵyl gerddoriaeth gyfoes Gymraeg sy’n cael ei chynnal gyda’r nos yw Maes B, sy’n cynnwys perfformiadau gan y bandiau a’r artistiaid cyfrwng Cymraeg mwyaf poblogaidd.

Eisteddfod yr Urdd

Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop sy’n cael ei threfnu’n flynyddol gan fudiad Urdd Gobaith Cymru.

Cafodd Eisteddfod yr Urdd gyntaf ei chynnal yn 1929 yng Nghorwen, ac erbyn heddiw mae hyd at 100,000 o bobl yn ymweld â’r wŷl bob blwyddyn. Gall bobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau, ee canu cerdd dant, offerynnol, corau i ddawnsio gwerin a dawnsio disgo.

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Daw miloedd o bobl ledled y byd i Langollen i gystadlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Dechreuodd yn 1947 mewn ymgais i wella a heddwch yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Erbyn hyn, mae dros 5,000 o gantorion, dawnswyr a cherddorion o dros 50 o wledydd yn perfformio dros chwe diwrnod.

Dros y blynyddoedd, mae rhai o enwogion y byd celfyddydol wedi perfformio yn Llangollen, gan gynnwys Luciano Pavarotti (a gystadlodd gyda’i gôr o’i dref enedigol, Modena), Bryn Terfel, Hayley Westerna ac Elaine Page.

Cerddoriaeth werin yng Nghymru

Mae cerddoriaeth werin wedi bod yn rhan o ddiwylliant Cymru ers canrifoedd, a dyma oedd un o brif ddulliau pobl o gyfathrebu yn yr hen ddyddiau. Roedd y Cymry’n defnyddio’r delyn, pibau a’r crwth, sef offeryn gyda chwe tant i greu eu cerddoriaeth werin.

Cafodd cerddoriaeth werin ei beirniadu yn dilyn y Deddfau Uno, gan fod y Saesneg wedi cael ei blaenoriaethu. Gwnaeth y yn y 18fed ganrif roi diwedd ar sawl traddodiad gwerin, a daeth canu corawl yn fwy poblogaidd yn ystod y 19eg ganrif.

Ffotograff yn dangos y Fari Lwyd yn cael ei harwain gan dri pherson ac un ohonyn nhw’n cnocio ar ddrws ffrynt.
Image caption,
Traddodiad y Fari Lwyd yng Nghymru lle mae penglog ceffyl yn cael ei osod ar bolyn gyda lliain wen drosto, ac yn cael ei dywys o amgylch tai pobl dros gyfnod y Nadolig

Fodd bynnag, mae cerddoriaeth werin yn rhan bwysig hen o draddodiadau Cymru sy’n dal i gael eu dathlu heddiw, enghraifft y Fari Lwyd adeg y Nadolig a’r flwyddyn newydd. Penglog ceffyl ar bolyn gyda lliain wen drosto yw’r Fari Lwyd, sy’n cael ei dywys gan griw o bobl o gartref i gartref gan ofyn am fynediad drwy ganu. Mae disgwyl i’r bobl yn y tŷ wrthod mynediad i’r ceffyl a’i bobl, ac mae’r ddwy ochr yn parhau i ymateb i’w gilydd drwy ganu. Os yw’r bobl yn y cartref yn yn y pen draw, mae’r Fari Lwyd a’i chriw yn cael mynediad ac yn cael bwyd a diod.

Oes Fictoria a Hen Wlad fy Nhadau

Cafodd geiriau Hen Wlad fy Nhadau eu hysgrifennu gan Evan James yn 1856, a’r dôn gan ei fab James James yn yr un flwyddyn. Mae’n debyg mai ymateb i gais gan frawd Evan James iddo fudo i Unol Daleithiau America yw geiriau’r gân. Mae’n dweud bod “gwlad ei dadau” yn ddigon da iddo fe - mewn cyfnod lle roedd nifer fawr o Gymry yn i’r UDA i chwilio am waith a dechrau newydd.

Cafodd y gân ei pherfformio gyntaf yn 1856 ym Maesteg, cyn cael ei chanu yn Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858. Cafodd ei chanu mewn gêm rygbi ryngwladol am y tro cyntaf yn 1905 mewn gêm rhwng Cymru a Seland Newydd.

Bu twf y diwylliant bandiau pres yng Nghymru yn y cyfnod hwn hefyd, yn enwedig yng nghymoedd de Cymru. Roedd y band o’r Rhondda, The Cory Band yn un o’r enwocaf yn y byd.

Yn ogystal â hyn, roedd Oes Fictoria yn ddechrau ar y diwylliant corawl yng Nghymru. Cafodd un o ganeuon enwocaf Cymru, Myfanwy, ei chyfansoddi gan Joseph Parry yn ystod y cyfnod hwn. Tyfodd poblogrwydd emynau o ganlyniad i’r diwygiad Methodistaidd yn ystod y 18fed ganrif. Yn 1859, cafodd Llyfr Tonau Cynulleidfaol ei gyhoeddi gan John Roberts. Ysgogodd hyn i grwpiau ymuno gyda’i gilydd i ganu emynau, a oedd yn sylfaen i’r ŵyl o ganu emynau, sef y Gymanfa Ganu.

Daeth dau o gantorion enwog o Gymru i’r amlwg yn y 60au, sef Tom Jones a Shirley Bassey. Mae Tom Jones, sy’n wreiddiol o Drefforest, bellach wedi gwerthu dros 100 miliwn o recordiau gyda’r enwocaf yn cynnwys It’s Not Unusual a Green, Green Grass of Home – sy’n cyfeirio at Gymru yn ôl rhai.

Cafodd Shirley Bassey ei geni yng Nghaerdydd, a hi oedd y person cyntaf o Gymru i gyrraedd brig Siartiau y DU gyda’i sengl As I Love You, yn 1959. Daeth yn enwocach fyth am ganu arwyddganeuon ar gyfer tair ffilm James Bond hefyd.

Ffotograff o Tom Jones ar y chwith a Shirley Bassey ar y dde yn perfformio ar raglen “This is Tom Jones” ar 1 Ionawr 1971 yn California
Image caption,
Tom Jones a Shirley Bassey yn perfformio ar raglen “This is Tom Jones” ar 1 Ionawr 1971 yn California

Cŵl Cymru

Parhaodd dylanwad Cymru drwy’r 1990au i ddechrau’r 21ain ganrif, pan gafodd y term ‘Cŵl Cymru’ ei greu i ddisgrifio hunaniaeth ddiwylliannol ac artistig newydd Cymru.

Roedd llwyddiant bandiau o Gymru fel y Stereophonics, Manic Street Preachers, Catatonia, Gorky’s Zygotic Mynci a Super Furry Animals yn dangos fod Cymru yn rhan o fyd cerddoriaeth poblogaidd y DU ac yn rhyngwladol.

Cerddoriaeth gyfoes

Yn yr 21fed ganrif, mae cerddoriaeth Gymraeg wedi parhau i dyfu mewn poblogrwydd gyda bandiau ac artistiaid fel Adwaith, Alffa a Sage Todz. Cynhelir llawer o ddigwyddiadau ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn sy'n hybu diwylliant a pherfformwyr Cymraeg. Ers 2006, mae Tafwyl wedi cael ei chynnal yn ninas Caerdydd. Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys Gŵyl Canol Dre yng Nghaerfyrddin a Gŵyl Arall yng Nghaernarfon.

Ar lwyfan rhyngwladol, mae’r gân Yma o Hyd gan Dafydd Iwan wedi tyfu mewn poblogrwydd o’i gwreiddiau fel cân brotest yn erbyn y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru ar y pryd, i gael ei chanu yng ngemau tîm pêl-droed Cymru yn ei ymdrech i gyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Ffotograff o Dafydd Iwan yn canu ‘Yma o Hyd’ yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 5 Mehefin 2022
Image caption,
Dafydd Iwan yn canu ‘Yma o Hyd’ yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 5 Mehefin 2022

Cwis - Gwlad y gân

More on Hunaniaeth

Find out more by working through a topic