Sut i luosi a rhannu gyda 0, 1, 10 a 100

Part ofMathemategRhif

Ffordd rwydd o luosi gyda 0,10 a 10 ac i rannu gyda 10 a 100.

Tabl gyda'r colofnau cannoedd degau ac unedau a'r rhif dau ddeg un yn newid i ddau gant a deg.
Image caption,
21 × 10 = 210

Lluosi gydag 1, 10, neu 100

  • Pan wyt ti’n lluosi gydag 1, mae’r ateb yn aros yr un peth. 21 × 1 = 21
  • Pan wyt ti’n lluosi gyda 10, symuda bob digid un lle i’r chwith, gan roi sero yn y lle gwag. 21 × 10 = 210
  • Pan wyt ti’n lluosi gyda 100, symuda bob digid ddau le i’r chwith, gan roi sero yn y llefydd gwag. 21 × 100 = 2100
Tabl gyda'r colofnau cannoedd degau ac unedau a'r rhif dau ddeg un yn newid i ddau gant a deg.
Image caption,
21 × 10 = 210
Cymeriad yn edrych yn syn ar hafaliad yn dangos bod naw mil pedwar cant a phum deg chwech wedi ei luosi â dim yn hafal i ddim.

Mae lluosi unrhyw rif gyda 0 yn rhoi 0

  • 5 × 0 = 0
  • 100 × 0 = 0
  • 9456 × 0 = 0
  • Beth ydi 1,000,000 × 0?
Cymeriad yn edrych yn syn ar hafaliad yn dangos bod naw mil pedwar cant a phum deg chwech wedi ei luosi â dim yn hafal i ddim.
Tabl yn dangos bod dau gant a deg wedi ei rannu gyda deg yn ddau ddeg un.
Image caption,
210 ÷ 10 = 21

Rhannu gydag 1, 10 or 100

  • Pan wyt ti’n rhannu gydag 1, mae’r ateb yn aros yr un peth. 21 ÷ 1 = 21
  • Pan wyt ti’n rhannu gyda 10, symuda bob digid un lle i’r dde. 210 ÷ 10 = 21
  • Pan wyt ti’n rhannu gyda 100, symuda bob digid ddau le i’r dde. 2100 ÷ 100 = 21
Tabl yn dangos bod dau gant a deg wedi ei rannu gyda deg yn ddau ddeg un.
Image caption,
210 ÷ 10 = 21

More on Rhif

Find out more by working through a topic