Beth yw gwerth lle?
Rhain, yr 'unedau', yw'r rhifau lleiaf.
Ma nhw'n rhedeg o 1 i 9 ond yna ma'r rhifau'n dod i ben.
Paid poeni pwtyn.
Gawn ni chydig o help gan y bois mawr.
Ahem… Dewch allan â'r 'degau'!
Mae gwerth lle yn ein helpu ni i gyfrifo beth yw gwerth digid yn dibynnu ar ei safle, neu ei le, yn y rhif.
Beth am gyflymu pethau a gweld be sy'n digwydd pan ry ni'n cyrraedd 99.
Ry ni di rhedeg allan o rifau eto.
Tro hyn bydd angen y cannoedd arnom ni!
Nawr bo da ni'r cannoedd, y degau a'r unedau i gyd, neidiwn ni ymlaen…
…i'r miloedd, sydd hyd yn oed yn fwy eto!
Yna, paratowch eich hunain bois achos nesa…
…mae'n amser mynd mas o ma!

Gwerth lle / Place value
Rydyn ni’n defnyddio penawdau gwerth lle fel 10, 100, 1000. Mae’r rhain yn ein helpu i wneud symiau a gweld pa rifau sy’n fwy na’i gilydd.
Mae rhif wedi’i wneud o un neu ragor o ddigidau. Mae’r rhif 6379, er enghraifft, wedi’i wneud o’r digidau 6, 3, 7 a 9.
6 mil, 3 chant, 7 deg a 9 uned.
We use place value headings like 10, 100, 1000. These help us to do sums and see which numbers are bigger than the others.
A number is made up of one or more digits. The number 6379, for example, is made up of the digits 6, 3, 7 and 9.
6 thousands, 3 hundreds, 7 tens and 9 units.

More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count2 of 16

- count3 of 16

- count4 of 16

- count5 of 16
