Beth am ddod am dro i mewn i ymennydd Albert i ddarganfod sut i wneud mathemateg y pen?
Sut i adio a thynnu yn eich pen
Dwyt ti ddim yn gallu defnyddio cyfrifiannell neu bapur a phensil i wneud sym bob tro.
Weithiau rhaid defnyddio dy ben sy'n gallu bod yn gyflymach!
Dim ond un rheol sydd pan ddaw hi i fathemateg y pen.
Os yw e'n gweithio i ti, yna mae'n iawn!
Dyma rai awgrymiadau i ddechrau.
Mae'n haws adio grwpiau cyfan o ddegau felly gallwn roi'r chwech naill ochr, sy'n rhoi 50 i ni.
Paid â thaflu'r chwech i ffwrdd, bydd ei angen e nes mlaen.
Mae gyda ni 20 a 50 ar ôl, sy'n rhoi 70 i ni.
Der a'r chwech 'na nôl, a dyna'n cyfanswm ni!
Gallwn ddefnyddio grwpiau cyfan o ddeg i wneud tynnu'n haws hefyd.
Os ydyn ni'n newid yr wyth yma i ddeg gan gyfri ymlaen dau yna mae'n ei wneud yn haws i dynnu.
Cofia gadw gafael ar y dau yna!
Felly mae 46 tynnu deg yn 36.
A nawr i adio'r dau.
I roi ateb o 38.
Hefyd gyda thynnu gallwn ni gyfri ymlaen o'r rhif lleiaf i'r mwyaf i ddod o hyd i'r ateb.
Felly gyda 30 tynnu 27 gallwn gyfri ymlaen o 27 i 30 i roi tri.
Gwych iawn Albert!
Ahem.

Talgrynnu rhifau
Mae talgrynnu rhifau i’r 1, 10 neu 100 agosaf yn gallu helpu gyda llawer o broblemau mathemateg pen.
- I adio 9 at rif arall, adia 10 ac wedyn tynnu 1:
36 + 9 = 36 + 10 - 1 = 45 - I adio 18 at rif arall, adia 20 ac wedyn tynnu 2:
48 + 18 = 48 + 20 - 2 = 66 - I adio 97 at rif arall, adia 100 ac wedyn tynnu 3:
439 + 97 = 439 + 100 - 3 = 536 - I adio 0.9 at rif arall, adia 1 ac wedyn tynnu 0.1:
3.7 + 0.9 = 3.7 + 1 - 0.1 = 4.6

Datod rhifau
Mae datod rhifau’n gallu dy helpu i adio neu dynnu yn dy ben. Er enghraifft, i ganfod y gwahaniaeth rhwng 38 a 63.
- Rhifa ymlaen o 38 i 40 a chadw’r 2 yna yn dy ben.
- Nawr rhifa ymlaen o 40 i 60, sy’n rhoi 20.
- Yn olaf, rhifa o 60 i 63, sy’n rhoi 3.
- Adia nhw at ei gilydd: 2 + 20 + 3 = 25.
More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count15 of 16

- count16 of 16

- count1 of 16

- count2 of 16
