Croeso i barti'r polygonau.
Polygonau yn unig sy'n cael dod, felly rhaid bod yn siâp dau ddimensiwn gydag ochrau syth.
Mae polygonau yn gallu cael eu grwpio o ran y nifer o ochrau sydd gyda nhw.
Dewch i ni gwrdd â'r criwiau gwahanol.
Criw da o'r pedrochrau 'ma.
Maent i gyd yn siapau pedwar ochr gydag onglau mewnol sy'n adio i 360 gradd.
Pwy sy' 'da ni fan hyn te?
Wrth gwrs. Sgwâr. Shwmae!
Petryal. Sut mae'r hwyl?
Rhombws, pleser fel arfer.
Paralelogram, cyfarchion.
Barcud! Hi.
A Trapesiwm, dyna chi!
Diolch bois, mwynhewch.
Dyma'r trionglau, siâp sydd â thri ochr gydag onglau mewnol yn adio i gant ac wyth deg gradd.
Triongl isosgeles, anghyfochrog, hafalochrog ac ongl sgwâr. Welwn ni chi whap!
O… y… helo, dyma'r polygonau afreolaidd.
Mae 'da'r criw yma ochrau o wahanol hyd ac onglau gwahanol.
Maen nhw'n… wel yn afreolaidd.
Ydych chi'n mwynhau eich hunain?
Hmm, symudwn ni 'mlaen.
Diolch bawb!
Nawr gall y parti ddechrau go iawn. Drychwch pwy sy ma!
Pentagon. Hecsagon. Heptagon. Octagon… a…
Pwy yw hwn? Cylch? Cylch!
Does dim ochrau syth 'da ti!
Dwyt ti ddim yn bolygon wyt ti?
Sori, ond dyna'r rheolau.

Parti’r polygonau
Dim ond siapiau 2D gydag ochrau syth sydd wedi’u gwahodd i barti’r polygonau.
Pedrochrau
Mae gan bedrochrau 4 ochr ac mae eu honglau mewnol yn adio i 360°.
Mae sgwâr, petryal, rhombws, paralelogram, barcud a thrapesiwm i gyd yn bedrochrau.
Trionglau
Mae gan drionglau 3 ochr. Mae eu honglau mewnol yn adio i 180°.
Dyma’r mathau o driongl sydd:
- isosgeles
- hafalochrog
- anghyfochrog
- ongl sgwâr
Polygonau afreolaidd
Mae gan bolygonau afreolaidd ochrau o wahanol hyd a gwahanol onglau.
Polygonau rheolaidd
Mae enwau gan siapiau eraill sydd ag ochrau o’r un hyd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- pentagon, sydd â 5 ochr
- hecsagon, sydd â 6 ochr
- heptagon, sydd â 7 ochr
- octagon, sydd ag 8 ochr
Mae’r siapiau hyn i gyd yn wahanol, ond polygonau ydyn nhw i gyd.

More on Siâp, safle a symud
Find out more by working through a topic
- count2 of 13

- count3 of 13

- count4 of 13

- count5 of 13
