Beth yw priodweddau siapiau 3D?
Mae'n amser cyffrous i'r criw 3D wrth i ni weld pwy fydd yn ennill y wobr fawreddog… a chwbl diwerth am y nifer fwyaf o briodweddau?
Ta beth. Mae gan giwb 3D chwe wyneb.
Ochrau, 12.
Iawn, beth am gorneli neu fertigau?
Dyna ble mae'r ochrau'n cwrdd.
Wyth! O mae'r ciwb yn gwneud yn wych.
Tro'r pyramid sylfaen sgwâr.
Co ni off! Wynebau. Pump.
Ochrau. Wyth.
A fertigau. Pump eto.
Ymdrech dda pyramid, ond ciwb sydd ar y blaen o hyd.
Yn olaf, beth am y sffêr?
Wynebau… ym dim ond un.
Ochrau? Sero. Fertigau? Dim un… O diar… A wel.
O dere mlaen. Paid bod fel 'na!
Ble wyt ti'n mynd? Am gollwr gwael.

Priodweddau siapiau 3D
Mae gan siapiau 3D wynebau (ochrau), ymylon a fertigau (corneli).
Wynebau
Arwyneb gwastad neu grwm ar siâp 3D yw wyneb. Er enghraifft, mae gan giwb 6 wyneb, mae gan silindr 3 wyneb, a dim ond 1 sydd gan sffêr.
Ymylon
Ymyl yw’r lle mae 2 wyneb yn cyfarfod. Er enghraifft, mae gan giwb 12 ymyl, mae 2 ymyl gan silindr a does dim gan sffêr.
Fertigau
Cornel lle mae ymylon yn cwrdd yw fertig. Er enghraifft, mae gan giwb 8 fertig, mae gan gôn 1 fertig a does dim gan sffêr.

More on Siâp, safle a symud
Find out more by working through a topic
- count6 of 13

- count7 of 13

- count8 of 13

- count9 of 13
