Ras! Peidiwch ag anghofio ystwytho bois!
Mae llinellau paralel yn aros yr un pellter ar wahân felly byddan nhw byth yn croesi, does dim ots pa mor bell maen nhw'n ymestyn.
Dyna pam maen nhw'n cael eu defnyddio mewn rasys.
Barod… ewch! O… mae'n gyffrous!
Cyflymder da… Mae'n edrych yn dda i Dîm Triongl…
Dere ymlaen Triongl! Hwre! Yr enillydd! Da iawn chi'ch dau!
O, beth nawr?
O, rwyt ti'n tynnu llinellau dy hun wyt ti?
O, dere ymlaen, paid â bod yn gollwr gwael.
Hmm… mae llinellau perpendiwcwlar yn croesi ar ongl sgwâr.
Dyna pam dyw nhw ddim yn cael eu defnyddio mewn rasys.
A dw i'n credu bod rhywun yn gwybod hynny'n barod…
Ie, roedd hynna'n bownd o ddigwydd, yn doedd?
Mae llinellau paralel bob amser yr un pellter ar wahân ar eu hyd cyfan. Mae llinellau perpendicwlar yn croesi ei gilydd ar ongl sgwâr.
Parallel lines are always the same distance apart for their entire length. Perpendicular lines cross each other at right angles.
More on Siâp, safle a symud
Find out more by working through a topic
- count10 of 13

- count11 of 13

- count12 of 13

- count13 of 13
