O, oes gen ti fap trysor? Dyna gyffrous!
Dewch i ni gael golwg. Mae gan grid ddau echelin.
Yr echelin llorweddol, x, a'r echelin fertigol, y.
Gallwn ddefnyddio'r rhain i ddarganfod pwynt ar y grid.
Rwyt ti'n y fan hon a rhaid cyrraedd fan yna.
Felly ry ni'n darllen y cyfesurynnau ar hyd yr echelin llorweddol, x, ac yna'r echelin fertigol, y.
Na? Paid poeni.
Mae pwynt A ddau ar draws yr echelin x a thri i fyny'r echelin y felly ry ni'n dweud dau, tri.
Mae pwynt B ar gyfesurynnau pedwar, un felly i gyrraedd y trysor rhaid mynd ar draws dau gam i'r dde ac yna lawr dau gam.
Bant â ni!
Dyna'r ddau gam i'r dde ar draws yr echelin x.
A dau gam lawr yr echelin y. Wel da… o!
Ti luniodd y map ife?
Wela i.
Cyfesurynnau
Mae gan bwynt ar grid ddau rif i nodi ei safle. Cyfesurynnau yw’r rhifau hyn.
Wrth ysgrifennu cyfesurynnau byddwn bob amser yn ysgrifennu nifer y camau ar draws yn gyntaf, wedyn nifer y camau i fyny neu i lawr.
Mae dwy echelin gan bob grid. Rydyn ni’n galw’r echelin lorweddol yn echelin X a’r echelin fertigol yn echelin Y. Gallwn ddefnyddio’r echelinau hyn i ganfod pwynt ar grid.
Coordinates
A point on a grid has two numbers to identify its position. These numbers are known as coordinates.
Coordinates are always written with the number of steps across first, then the number of steps up or down.
Grids have two axes. The horizontal axis is called the x-axis and the vertical axis is called the y-axis. These axes can be used to find a point on a grid.
More on Siâp, safle a symud
Find out more by working through a topic
- count1 of 13

- count2 of 13

- count3 of 13

- count4 of 13
