Beth yw'r bisgedi 'ma?
O, peiriant trionglau! Cŵl iawn!
Iawn. Ma 'na bedwar math o driongl.
Yn gynta, dyma driongl isosgeles, mae ganddo ddau ochr o hyd cyfartal a dwy ongl gyfartal.
O! Clyfar iawn.
Dyma driongl hafalochrog.
Tri ochr o hyd cyfartal ac mae'r onglau i gyd yn 60 gradd.
Dyma driongl anghyfochrog.
Mae'r ochrau i gyd o hyd gwahanol ac mae pob ongl yn wahanol hefyd.
Triongl ongl sgwâr yw hwn, sydd ag un ongl yn ongl sgwâr, sef 90 gradd.
Gwych! Reit, yn ôl â ti i fel oeddet ti!
O… O diar.
Mae'n iawn.

Trionglau / Triangles
Mae pedwar math o driongl. Mae gan bob un dri ochr, ac maen nhw’n bolygonau.
1. Hafalochrog
Mae gan drionglau hafalochrog dri ochr hafal a thair ongl hafal 60°.
2. Isosgeles
Mae gan drionglau isosgeles ddau ochr hafal a dwy ongl hafal.
3. Ongl sgwâr
Mewn trionglau ongl sgwâr mae un o’r onglau yn ongl sgwâr (90°).
4. Anghyfochrog
Does gan drionglau anghyfochrog ddim ochrau hafal nac onglau hafal.

More on Siâp, safle a symud
Find out more by working through a topic
- count3 of 13

- count4 of 13

- count5 of 13

- count6 of 13
