Onglau lem, aflem, sgwâr ac allblyg.
Beth yw ongl?
Mmmm, pizza.
Reit, rhaid canolbwyntio. Heddi ry'n ni'n edrych ar onglau.
Gwych, rwyt ti'n torri'r pizza ar ongl sgwâr, sy'n golygu ongl o 90 gradd. Darn mawr blasus i'r sgwâr.
Be nesa? Ti'n torri'r un yna ar ongl aflem, sy'n golygu ongl rhwng 90 a 180 gradd. Ddim yn ddrwg!
Ac yn olaf ti'n mynd am ongl lem.
Ongl sy'n llai na 90 gradd. Anlwcus!
Felly, bob tro roeddet ti'n torri rhain roedd ongl atblyg ar ôl ar bob pizza.
Sef unrhyw ongl sy'n fwy na 180 gradd.
A sgwn i pwy ga'th rheiny?
Mmmhmmm, dylwn i fod wedi dyfalu hynna.
Ongl sy’n mesur tro, a hynny mewn graddau neu °. Mae 360° mewn tro llawn.
Gelli di ganfod maint ongl trwy ddefnyddio onglydd.
- Ongl lem yw ongl sy'n llai na 90°.
- Ongl aflem yw ongl sydd rhwng 90° a 180°.
- Ongl atblyg yw ongl sy'n fwy na 180°.
- Ongl sgwâr yw ongl sy'n 90° yn union.
More on Siâp, safle a symud
Find out more by working through a topic
- count9 of 13

- count10 of 13

- count11 of 13

- count12 of 13
