Hafod Eryri
Description
Adroddiad newyddion am agoriad swyddogol adeilad newydd Hafod Eryri yn 2009. Agorwyd yr adeilad ar gopa’r Wyddfa gan Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar y pryd. Roedd hwn yn disodli’r adeilad gwreiddiol a gynlluniwyd gan Syr Clough Williams-Ellis, adeilad oedd yn cael ei alw’n slym uchaf Cymru erbyn y diwedd.
Classroom Ideas
Gellir defnyddio’r clip hwn wrth wneud gwaith am Gymru neu wrth drafod gwyliau. Gallai’r clip fod yn sbardun i drafodaeth ar y cwestiwn: Pam mae pobl yn dod i Gymru ar wyliau? Byddai’n bosibl defnyddio’r clip hwn hefyd wrth wneud gwaith am ddigwyddiadau arbennig. Gellir defnyddio’r clip i gyflwyno gwaith ar ansoddeiriau. Gofynnwch i ddisgyblion feddwl am ansoddeiriau i ddisgrifio’r teimlad o fod ar gopa’r Wyddfa a chreu brawddegau sy’n cynnwys yr ansoddeiriau hynny. Gall y clip hwn fod yn ysgogiad i ysgrifennu am ddigwyddiad arbennig, gan ddefnyddio’r amser gorffennol a chanolbwyntio ar sut roedd y disgyblion yn teimlo. Gellir gofyn i ddisgyblion baratoi cyflwyniad unigol am ddigwyddiad arbennig.
Now playing video 7 of 7
- 1:25

- 3 of 7
2:16
- 1:36

- 5 of 7
2:33
- 1:04

- Now playing2:27
