Beibl William Morgan
Description
Ym 1588 cyhoeddwyd y cyfieithiad cyntaf o’r Beibl cyfan i’r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan. Roedd yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar y pryd, ond o Dŷ Mawr Wybrnant, ger Penmachno, roedd e’n wreiddiol. Golwg o gwmpas Tŷ Mawr a thipyn o hanes cynnar William Morgan.
Classroom Ideas
Mae’r clip hwn yn cynnig cyfle i gychwyn trafodaeth am yr iaith Gymraeg wrth wneud gwaith am ddiwylliant Cymru. Byddai’n bosibl dangos y clip i ddisgyblion a gofyn iddyn nhw beth maen nhw wedi ei ddeall cyn rhoi taflen o eirfa iddyn nhw a dangos y clip iddyn nhw eildro. Gellid dangos y clip am y trydydd tro a gosod tasg gwrando a deall. Ar ôl gwylio’r clip ceir cyfle i ofyn i ddisgyblion ystyried pa mor bwysig ydy’r Gymraeg iddyn nhw a sut le fyddai Cymru heb yr iaith.
Now playing video 2 of 7
- 1:25

- Now playing1:51

- Up next2:16

- 1:36

- 5 of 7
2:33
- 1:04

- 2:27
