Cofio Ray Gravell
Description
Darn o raglen ddogfen yn coffáu’r chwaraewr rygbi Ray Gravell a fu farw yn 2007. Gwelir nifer o enwogion yn trafod gwahanol agweddau o’i fywyd yn Gymraeg ac yn Saesneg. Clywn droslais yn sôn am ei gefndir cynnar a ‘Grav’ ei hun yn sôn am ei dad.
Classroom Ideas
Gellir cynnal trafodaeth gyffredinol ar yr effaith gafodd Ray Gravell ar fywyd Cymreig. Mae’r clip yn dilyn confensiynau a chodau rhaglen ddogfen ac yn cynnwys cyfweliadau gyda nifer o bobl allweddol yn y byd Cymreig. Trafodwch sut gellir defnyddio’r fformiwla hon i ail-greu rhaglen ddogfen. Gofynnwch beth sy’n gwneud unigolyn yn gymeriad eiconig. Anogwch y disgyblion i greu proffil o’r cymeriad dan sylw trwy gasglu gwybodaeth o’r clip i greu adroddiad. Gofynnwch i’r disgyblion gyfeirio at ffynonellau a’u cofnodi.
Now playing video 2 of 5
- Now playing3:48
