Ymholiad daearyddol - Rhan 2

Part ofDyniaethau - DaearyddiaethSgiliau daearyddol

Beth yw ymholiad daearyddol?

Gall ymholiadau daearyddol gynnwys ymchwilio amgylcheddau dynol a ffisegol. Maen nhw'n ffordd o ymchwilio i gwestiynau am y byd rydyn ni'n byw ynddo ac i ddysgu sut mae prosesau'n gweithio.

Mae chwe cham i'w dilyn mewn ymholiad daearyddol.

  • Cynllunio
  • Gwaith maes
  • Prosesu a chyflwyno data
  • Dadansoddi a dehongli data
  • Llunio casgliad
  • Gwerthuso

Mae'r erthygl hon yn edrych ar y pedwar cam olaf mewn ymholiad daearyddol. Dysga am y ddau gam cyntaf - cynllunio a gwaith maes - yn Ymholiad daearyddol - Rhan 1

Unwaith fydd y ddau gam cyntaf wedi’u cwblhau, mae’n bryd edrych ar y data sydd wedi’i gasglu.

Gwylio: Fideo Ymholiad daearyddol - Rhan 2

Gwylia’r clip byr hwn i ddysgu beth i wneud gyda'r data sy'n cael ei gasglu mewn ymholiad daearyddol a sut i lunio casgliad a gwerthuso'r ymholiad.

Prosesu a chyflwyno data

Unwaith y bydd data wedi'i gasglu mae angen ei ddidoli a'i drefnu'n dablau data. Yna gall y data gael ei gyflwyno’n daclus mewn gwahanol fathau o graffiau i ddangos y canlyniadau'n glir.

Dylai pob graff gael ei lunio’n daclus gyda phensil a phren mesur a dylai gynnwys y canlynol:

  • teitl
  • echel wedi'i labelu
  • allwedd
  • lliw

Siartiau bar

Mae siartiau bar yn cael eu defnyddio i ddangos meintiau gwahanol setiau o ddata.

Er enghraifft, wrth gynnal ymholiad traffig byddai canlyniadau arolwg o gerbydau sy'n teithio ar hyd ffordd i'r ddau gyfeiriad yn cael eu rhoi mewn tabl data.

Math o gerbydI'r ddinasO'r ddinas
Car240320
Fan3240
Lori249
Beic modur52
Beic00
Cerdded10
Arall315

Gall y data yma gael ei ddangos mewn siart bar lle gall y gwerthoedd gwahanol gael eu cymharu.

Siart bar yn dangtos canlyniadau arolwg traffig yn mewn ac allan o ddinas rhwng 15:00 a 15:30. Y categorïau yw car, van, lori, beic modur, beic, cerdded ac arall. Car sydd â'r nifer uchaf gyda 240 yn teithio i'r ddinas a 320 yn teithio mewn o'r ddinas.

Manteision siartiau bar

  • Arddangos data'n glir sy'n ei gwneud hi'n hawdd cymharu gwerthoedd gwahanol.
  • Dangos yn glir beth sydd â'r rhifau uchaf ac isaf.

Anfanteision siartiau bar

  • Ddim yn ddefnyddiol wrth ddangos newid dros amser.
  • Ddim yn ddefnyddiol wrth adnabod y berthynas rhwng dwy set o ddata.

Graffiau llinell

Mae graffiau llinell yn cael eu defnyddio’n aml i ddangos newid dros amser. Er enghraifft, gall graff llinell gael ei ddefnyddio i ddangos canlyniadau arolwg o gerddwyr mewn un lleoliad dros gyfnod o ddiwrnod.

Graff llinell yn dangos canlyniadau arolwg cerddwyr mewn canolfan siopa rhwng 09:00 a 17:00. Mae 100 o gerddwyr am 09:00 yn codi i 325 am 15:00 cyn lleihau i 300 am 17:00.

Manteision graffiau llinell

  • Arddangos data'n glir.
  • Mae modd adnabod tueddiadau.

Anfanteision graffiau llinell

  • Ddim yn ddefnyddiol wrth ddangos canrannau.
  • Ddim yn ddefnyddiol wrth gymharu setiau unigol gwahanol o ddata.

Mae trawstoriad afon yn dangos dyfnder a lled yr afon. Mae’n debyg i graff llinell, ond gyda’r echelin-x ar y top.

Graff croestoriad ar gyfer afon.

Graffiau radar

Gall graffiau radar gael eu defnyddio i arddangos data o arolygon amgylcheddol. Mae gan bob un o'r canghennau raddfa - a’r agosaf yw'r llinell at y rhif uchaf, y mwyaf positif yw canlyniad yr arolwg.

Er enghraifft, gall graff radar gael ei ddefnyddio i arddangos a chymharu canlyniadau arolwg amgylcheddol mewn dwy ardal gyferbyniol o dref. Yn y graff hwn, po fwyaf yw siâp y pentagon, y mwyaf positif yw'r sgôr.

Graff radar yn dangos canlyniadau arolwg amglycheddol i ddwy ardal mewn dinas - un wedi ei hailddatblygu ac un heb ei datblygu gyda sgoriau yn mynd o 2 i ddiffyg 2 ym mhob categori. Y categorïau yw ansawdd adeiladau, goleuadau stryd, atyniadau lleol, ansawdd ffyrdd a tagfeydd. Ar y cyfan yr ardal wedi ei hailddatblugu sy'n cael y sgoriau uchaf.

Siartiau cylch

Mae siartiau cylch yn dangos canrannau fel cylch sydd wedi ei rannu'n segmentau. Gallan nhw gael eu defnyddio i ddangos data o wahanol fathau o ymholiadau daearyddol, er enghraifft wrth gasglu data ansoddol drwy ddefnyddio holiadur a gofyn i bobl pam wnaethon nhw symud i fyw i rywle.

Siart cylch yn dangos yr atebion gafodd eu rhoi gan bobl pan gofynnwyd iddyn nhw am y rheswm wnaethon nhw symud i'r ddinas. Y categorïau yn mynd o'r canran uchaf i'r canran isaf yw diwylliant, swyddi, trafnidiaeth, hanes, tai, arall ac atyniadau.

Dadansoddi a dehongli data

Mae dadansoddi yn golygu disgrifio'r canlyniadau.

Er enghraifft, galli di weld y duedd sy’n cael ei ddangos mewn graff.

  • Ydy'r graff yn cynyddu neu'n gostwng yn araf?
  • Ydy'r graff yn cynyddu neu'n gostwng yn gyson neu'n gyflym?
  • Ydy'r graff yn amrywio (codi a disgyn yn afreolaidd)?

Defnyddia ffigurau o'r graff i ddisgrifio'r newidiadau sy'n cael eu dangos fel tystiolaeth o unrhyw duedd rwyt ti wedi ei hadnabod. Dylet ti bob amser geisio rhoi symiau yn agos at y dechrau, y canol a'r diwedd. Ceisia fod mor gywir â phosib wrth ddarllen o'r graff a defnyddia unedau bob amser wrth ddyfynnu ffigurau, ee cm, m, km.

Graff llinell yn dangos y nifer o enedigaethau rhwg 1950 a 2010. Mae'n dechrau ar ychydig dros 800,000 yn 1950 ac yn codi i 1,000,000 yn 1964. Yna mae'n anwadalu ond yn lleihau i 810, 000 yn 2010.

Er enghraifft, gallai dadansoddiad o'r graff hwn sy’n dangos nifer y genedigaethau dros nifer o flynyddoedd ddweud:

  • bod 1,000,000 o enedigaethau yn 1964
  • bod y graff wedi amrywio dros amser
  • yn gyffredinol, mae’r duedd wedi gostwng o 1,000,000 o enedigaethau yn 1964 i 810,000 o enedigaethau yn 2010

Modd, canolrif, amrediad a chymedr

I ddatblygu dadansoddiad pellach, gallet ti edrych ar fodd, canolrif, amrediad a chymedr set ddata. Un enghraifft fyddai’r data sydd wedi cael ei gasglu mewn arolwg traffig.

Math o gerbydI'r ddinas
Car240
Fan32
Lori24
Beic modur5
Beic0
Cerdded1
Arall3

Y modd yw'r rhif mwyaf cyffredin. Yn y set hon o ddata mae'r modd yn 240, sef nifer y ceir.

Y canolrif yw'r rhif canol pan fydd y data yn cael ei roi mewn trefn o'r uchaf i'r isaf. Yn y set hon o ddata lle mae'r niferoedd yn 240, 32, 24, 5, 3, 1 a 0, y canolrif yw 5.

Yr amrediad yw'r gwahaniaeth rhwng y rhif uchaf a'r rhif isaf. Yn y set hon o ddata yr amrediad yw 240 sef y gwahaniaeth rhwng nifer y ceir a nifer y beiciau.

Mae’r cymedr yn cael ei gyfrifo drwy adio'r niferoedd yn yr holl gategorïau ac yna rhannu'r cyfanswm gyda nifer y categorïau.

Ar gyfer y set hon o ddata:

  • adia’r rhifau ym mhob categori (ceir, faniau, lorïau, beiciau modur, beiciau, cerddwyr ac eraill) i gael cyfanswm o 305.
  • rhanna 305 gyda 7 (nifer y categorïau) sy’n rhoi cymedr o 43.57

Dehongli data

Mae dehongli’r data a gasglwyd yn golygu dy fod yn egluro:

  • y gwahanol resymau dros y canlyniadau a'r graffiau
  • y patrymau a'r tueddiadau yn y wybodaeth

Llunio casgliad

Crynodeb o beth rwyt ti wedi ei ganfod yw'r casgliad. I lunio dy gasgliad, edrycha nôl ar dy ragdybiaeth neu ar dy gwestiwn ac is-gwestiynau.

Er enghraifft, mewn ymchwiliad afon un cwestiwn ymholiad posib – sef y prif gwestiwn sy'n cael ei ofyn – fyddai ‘A yw’r afon yn newid o’i tharddiad i’r aber?’

Is-gwestiynau posib, sy’n cael eu defnyddio i rannu’r prif gwestiwn ymholiad yn rhannau llai, fyddai:

  • a yw cyflymder yr afon yn newid ar hyd ei chwrs?
  • beth sy’n digwydd i'r lled a'r dyfnder wrth symud i lawr yr afon?
  • a yw maint a siâp y cerrig mân yn newid ar hyd cwrs yr afon?

Wrth ateb y cwestiynau hyn, efallai y bydd angen i ti gyfuno canfyddiadau allweddol o setiau data gwahanol i roi tystiolaeth ar gyfer yr ateb, ee cyflymder afon, siâp a maint y cerrig mân, lled, dyfnder, graddiant a mapiau.

Y casgliad cyffredinol yw yr ateb i'r prif gwestiwn. Galli di ddefnyddio atebion yr is-gwestiynau wrth lunio’r ateb hwn.

Dylet ti gynnwys ateb i dy ragdybiaeth yn dy gasgliad cyffredinol. Wyt ti'n gallu profi neu wrthbrofi dy ragdybiaeth? Galli di roi rhesymau a thystiolaeth i gefnogi dy gasgliadau.

Gwerthuso

Cymera amser i werthuso’r ymholiad. Gall y gwerthusiad hwn fod yn seiliedig ar yr atebion i dri prif gwestiwn.

  • Beth yw cryfderau’r ymholiad?
  • Beth yw gwendidau’r ymholiad?
  • Sut fyddai'n bosib gwella'r project pe bai’n cael ei gwblhau eto?

Dylai’r cwestiynau hyn ganolbwyntio ar agweddau gwahanol yr ymholiad.

  • Dulliau casglu data
  • Technegau samplu
  • Dulliau cyflwyno data

Pan fyddi di yn ystyried sut i wneud y project mewn ffordd hyd yn oed yn fwy effeithiol pe bai’n cael ei wneud eto, dyma’r math o gwestiynau fyddai'n bosib eu gofyn.

  • A fyddet ti’n gofyn yr un cwestiynau neu a allet ti wneud y project yn llai a gyda ffocws mwy tynn?
  • A wnest ti gasglu digon o ddata neu a fyddet ti'n newid y dechneg samplu ac yn casglu mwy o ddata?
  • A wnest ti gyflwyno’r holl graffiau’n gywir?
  • A fyddet ti'n ystyried herio dy hun a cheisio defnyddio graffiau gwahanol?

More on Sgiliau daearyddol

Find out more by working through a topic