Ymholiad daearyddol - Rhan 1

Part ofDyniaethau - DaearyddiaethSgiliau daearyddol

Beth yw ymholiad daearyddol?

Gall ymholiadau daearyddol gynnwys ymchwilio amgylcheddau dynol a ffisegol. Maen nhw'n ffordd o ymchwilio i gwestiynau am y byd rydyn ni'n byw ynddo ac i ddysgu sut mae prosesau'n gweithio.

Mae chwe cham i'w dilyn mewn ymholiad daearyddol.

  1. Cynllunio
  2. Gwaith maes
  3. Prosesu a chyflwyno data
  4. Dadansoddi a dehongli data
  5. Llunio casgliad
  6. Gwerthuso

Gwylio: Fideo Ymholiad daearyddol - Rhan 1

Gwylia’r clip byr hwn i ddysgu am gamau cynllunio a gwaith maes mewn ymholiad daearyddol.

Cynllunio

Yn gyntaf, penderfyna beth i’w astudio. Gall ymholiadau ymwneud â’r amgylchedd ffisegol a dynol. Gall yr amgylchedd ffisegol gynnwys astudio afonydd, arfordiroedd, twyni tywod a mynyddoedd. Gall yr amgylchedd dynol gynnwys archwilio lleoliadau mwy trefol mewn trefi a dinasoedd.

Yna dewisa gwestiwn i'w ofyn am yr hyn rwyt ti wedi dewis ei astudio. Neu meddylia am ragdybiaeth - sef rhagfynegiad i'w brofi i weld os ydy e'n wir neu beidio.

Cwestiwn

Ar gyfer ymholiad traffig, un cwestiwn posib yw, ‘'Ydy amser o’r dydd yn effeithio ar y math, maint a chyfeiriad traffig ar y ffordd fawr?’

Gall y cwestiwn hwn gael ei rannu ymhellach yn is-gwestiynau.

  • Pa fathau o draffig sy’n defnyddio’r ffordd fawr?
  • Faint o gerbydau sy’n pasio o fewn amser penodedig?
  • Sut mae cyfeiriad y traffig yn cymharu ar adegau gwahanol o’r dydd?

Ar gyfer ymholiad am afon, un cwestiwn posib yw, ‘'Sut mae afon yn newid ar hyd ei chwrs?'

Gall y cwestiwn gael ei rannu ymhellach yn is-gwestiynau.

  • A yw cyflymder afon yn newid ar hyd ei chwrs?
  • Beth sy’n digwydd i led a dyfnder afon wrth symud i lawr yr afon?
  • Ydy maint a siâp cerrig mân yn newid ar hyd cwrs afon?

Rhagdybiaeth

Gallet di ddewis rhagdybiaeth i'w phrofi i weld os yw’n wir neu beidio.

Ar gyfer ymholiad i faint o draffig sy’n teithio ar hyd y ffordd fawr, un rhagdybiaeth bosib yw, ‘Rwy’n credu y bydd mwy o draffig yn mynd tuag at ganol y ddinas yn ystod yr oriau brys y bore’.

Wrth gynnal ymholiad afon, un rhagdybiaeth bosib yw, ‘Rwy’n credu y bydd yr afon yn mynd yn fwy llydan ac yn fwy dwfn wrth i fi deithio i lawr yr afon’.

Dewis y lleoliad cywir

Unwaith y byddi di wedi dewis cwestiwn ymholi neu ragdybiaeth, mae’n bwysig dod o hyd i leoliad addas, hawdd i'w gyrraedd i gynnal yr ymholiad. Mae angen meddwl yn ofalus wrth ddewis y lleoliad a'r amser gorau.

Ar gyfer ymholiad traffig sy’n edrych ar y ffordd fawr i mewn ac allan o ganol y ddinas, byddai angen ystyried cwestiynau fel y canlynol.

  • Ble mae'r lle mwyaf diogel i sefyll i gasglu'r data?
  • Oes modd gweld yr holl draffig o’r lleoliad hwn?
  • A yw’r lleoliad yn hawdd i'w gyrraedd?

Wrth astudio afon, byddai angen i dewis safleoedd casglu data lle mae'n ddiogel i fynd at yr afon.

Edrycha ar ragolygon y tywydd a phenderfyna os yw’n ddiogel i ti gasglu data.

Asesiad risg

Mae creu asesiad risg yn golygu nodi peryglon posib ac ystyried pa mor debygol yw hi y byddan nhw'n achosi niwed neu ddifrod.

Mae’n rhaid cwblhau asesiad risg cyn dechrau unrhyw ymchwiliad. Mae angen ystyried yr holl heriau a pheryglon, fel:

  • ble mae hi'n ddiogel i sefyll i gasglu'r data?
  • sut fydd y tywydd ar ddiwrnod casglu’r data?
  • a fyddi di'n gweithio ar dy ben dy hun neu fel rhan o grŵp?
  • beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn cwympo ac yn brifo ei hun?
Peryglon posibRisgTebygolrwyddSut i leihau’r risg
1. Glaw trwm - hypothermia3/53/5Edrych ar y rhagolygon tywydd. Dod â chot law ac ymbarel. Aros am ddiwrnod sych.
2. Mynd ar goll2/54/5Cynllunio’r llwybr yn ofalus. Dod â map. Dweud wrth rywun lle rwyt ti’n mynd. Dod â ffôn.

Data yw’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu ar gyfer yr ymholiad. Mae'n rhaid i'r data ateb y cwestiwn sydd wedi cael ei ofyn.

Mae’n bwysig ystyried sut i gasglu’r data. Wrth wneud ymholiad traffig, efallai y byddi di am gofnodi nifer y ceir, lorïau, bysiau, beiciau modur, beiciau a cherddwyr sy’n pasio dros gyfnod o 30 munud.

Dylai data fod yn . Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r data sy’n cael ei gasglu fod yn fanwl gywir, felly wrth gynnal ymholiad traffig mae angen i ti ystyried:

  • sut mae modd casglu data heb unrhyw wallau?
  • a fydd y canlyniadau'n fanwl gywir os byddi di’n ceisio cyfrif traffig sy'n mynd i'r ddau gyfeiriad?
  • oes modd casglu data gyda phartner i'w wneud yn fwy cywir?

Data cynradd a data eilaidd

Data cynradd yw data sy’n wreiddiol ac yn cael ei gasglu’n uniongyrchol. Er enghraifft, siart gyfrif o faint o draffig rwyt ti’n ei weld yn teithio ar hyd ffordd fawr neu fesuriadau rwyt ti wedi eu gwneud o led a dyfnder afon

Data eilaidd yw data sydd wedi ei gasglu gan rywun arall yn barod ac sydd ar gael yn rhywle, ee mewn llyfr, data cyfrifiad neu ar wefan ddibynadwy.

Wrth gasglu data mae'n bwysig cael cydbwysedd rhwng data cynradd ac eilaidd.

Data feintiol a data ansoddol.

Mae'r data sy’n cael ei gasglu yn gallu bod yn feintiol neu'n ansoddol.

Swm neu werth yw data meintiol sy’n cael ei fynegi mewn rhifau, ee cyflymder afon, nifer y ceir neu faint o sbwriel mewn lleoliad penodol.

Gall y data yma gael ei gasglu drwy ddefnyddio dulliau fel arolygon amgylcheddol, siartiau cyfrif neu drwy fesur.

Mae data meintiol yn gallu bod yn gyflym i'w gasglu, yn dda i’w ddangos mewn graff ac yn hawdd i'w gymharu. Ond, nid yw'r data hwn yn aml yn cynnig digon o ddyfnder ar ei ben ei hun, felly mae'n ddefnyddiol defnyddio data meintiol ac ansoddol gyda'i gilydd i gael cydbwysedd da.

Mae data ansoddol yn cael ei fynegi ar ffurf lluniau, geiriau a disgrifiadau. Mae modd ei gasglu mewn ffyrdd gwahanol, ee cyfweld â pherson am ei safbwyntiau personol, casglu holiaduron, tynnu brasluniau neu dynnu ffotograffau. Mae'r wybodaeth hon yn llawer mwy disgrifiadol ac mae'n gallu rhoi darlun cliriach o'r amgylchedd neu'r gymuned. Mae'r math hwn o ddata yn llawn gwybodaeth, ond gall fod yn anoddach ei ddangos mewn graff.

Gwaith maes

Prif bwrpas gwaith maes yw casglu data cynradd, sef unrhyw wybodaeth rwyt ti’n ei chofnodi dy hun, ar leoliad. Mae yna sawl peth sydd angen eu hystyried wrth wneud hyn.

Technegau samplu

Mae'n rhaid dewis y dechneg samplu yn ofalus oherwydd mae'n helpu i ddileu tuedd, sef pan fydd un canlyniad neu ateb yn cael ei annog yn fwy nag eraill. Mae angen egluro pam fod dull samplu wedi cael ei ddefnyddio i gasglu'r data er mwyn sicrhau bod y data yn cael ei ystyried yn ddibynadwy a bod canlyniadau'r ymholiad yn cael eu hystyried yn deg ac yn fanwl gywir.

Mae tri phrif fath o samplu.

  • Samplu systemig – casglu data mewn trefn ac yn rheolaidd, ee bob pumed tŷ, neu bob milltir ar hyd afon.
  • Samplu ar hap – dewis lleoliad neu berson i gasglu data ar hap.
  • Samplu haenedig – rhannu’r samplu yn grwpiau, ee dewis tri lleoliad i gasglu data ar hyd ffordd neu afon ymlaen llaw.

Casglu data meintiol

Mae’n bwysig ystyried sut mae’r data sydd ei angen ar gyfer yr ymchwiliad yn cael ei gasglu.

Ar gyfer ymchwiliadau dynol, mae dulliau ansoddol a meintiol yn cael eu defnyddio.

Mae dulliau casglu data meintiol yn cynnwys:

  • llif cerddwyr
  • siartiau cyfrif
  • arolygon amgylcheddol
  • arolygon defnydd tir

Wrth gasglu data meintiol, er enghraifft mewn ymholiad traffig, byddai'n bosib defnyddio taflen casglu data.

Taflen casglu data ar gyfer arolwg traffig i'r ddinas ac o'r ddinas. Y categorïau yw car, van, lori, beic modur, beic, cerdded ac arall.

Gall dulliau casglu data arbennig gael eu defnyddio yn dibynnu ar leoliad a phwyslais yr ymholiad. Os wyt ti'n cwblhau ymchwiliad ar afon gallet ti fesur y:

  • trawstoriadau
  • perimedr gwlychu
  • lled a dyfnder yr afon
  • cyflymder
  • siâp a maint y cerrig mân
  • graddiant

Casglu data ansoddol

Mae dulliau casglu data ansoddol yn cynnwys:

  • holiaduron, sef cwestiynau wedi eu hysgrifennu neu argraffu gyda dewis o atebion
  • cyfweliadau, sef gofyn i bobl am eu barn wyneb yn wyneb
  • mapio emosiwn, sef cofnodi teimladau’r ymchwilydd am leoliadau, ee rhoi sgôr sy’n mynegi pa mor ddiogel maen nhw’n teimlo mewn gwahanol leoedd

Mae'n bwysig ystyried pa offer sydd ei angen i gwblhau'r ymholiad fel bod gyda ti bopeth sydd ei angen ar gyfer yr ymchwiliad. Bydd yr offer sydd ei angen yn dibynnu ar natur yr ymchwiliad.

Er enghraifft, ar gyfer yr ymholiad traffig dim ond clipfwrdd, taflen casglu data, pensil a rwber sydd eu hangen i gofnodi'r data.

Ond ar gyfer astudiaeth o’r afon, byddai'r rhestr o offer yn hirach oherwydd byddai angen eitemau fel polion anelu, tâp mesur, pren mesur metr, mesurydd llif a stopwatsh hefyd.

Beth bynnag fo'r ymchwiliad, cadwa lygad ar ragolygon y tywydd ymlaen llaw fel dy fod wedi gwisgo'n addas.

Ymholiad daearyddol - Rhan 2

Dysga am y pedwar cam nesaf mewn ymholiad daearyddol yn Ymholiad daearyddol - Rhan 2

More on Sgiliau daearyddol

Find out more by working through a topic