Chwyldro benywaidd

Part ofDyniaethau - DaearyddiaethChwyldro

Byddai’n hawdd meddwl bod cydraddoldeb rhywiol yn rhywbeth cyffredin ar draws y byd am ein bod ni’n gweld mwy a mwy o fenywod mewn rolau dylanwadol mewn nifer o feysydd. Fodd bynnag, nid yw hynny’n wir, yn enwedig mewn gwledydd llai datblygedig.

O'r 800 miliwn o bobl sy'n byw mewn tlodi eithafol drwy’r byd, maen nhw’n fwy tebygol o fod yn fenywod nag yn ddynion yn ôl y Cenhedloedd Unedig.

Yn ystod y degawdau diwethaf, mae peth cynnydd wedi ei wneud. Mae mwy o ferched nawr yn mynd i’r ysgol, mae llai o ferched yn cael eu gorfodi i briodi ac mae deddfau'n cael eu diwygio i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol.

Ond er gwaetha hyn, mae rhai heriau yn dal i fod. Mae menywod yn dal i gael eu tangynrychioli ar bob lefel o arweinyddiaeth wleidyddol. Mewn rhai gwledydd mae normau cymdeithasol yn dal yn golygu nad ydy merched yn cael cyfleoedd cyfartal.

Gwylio: Chwyldro benywaidd

Gwylia’r clip byr hwn i ddysgu am rai menywod anhygoel a’u llwyddiannau.

Swffragetiaid

Cafodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl ei phasio ar 6 Chwefror 1918. Dyma oedd y tro cyntaf i ferched gael yr hawl i bleidleisio yn y DU. Roedd rhaid iddyn nhw aros tan 1928 cyn cael yr un hawliau pleidleisio â dynion.

Dechreuodd menywod yr ymgyrch i gael yr hawl i bleidleisio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd y ddeiseb gyntaf ei chyflwyno i’r Senedd yn 1832.

Roedd menywod yn ymgyrchu drwy fudiadau lleol. Yn 1897, daeth Millicent Fawcett â’r mudiadau hyn at ei gilydd i greu y National Union of Women's Suffrage Societies (NUWSS). Roeddwn nhw’n cael eu hadnabod fel y Swffragwyr.

Yn 1903, fe wnaeth Emmeline Pankhurst ac eraill sefydlu y Women’s Social and Political Union (WSPU) am eu bod nhw’r teimlo’n rhwystredig gyda’r diffyg cynnydd. Roedden nhw’n cael eu hadnabod fel y Swffragetiaid a’u harwyddair oedd "Gweithredoedd nid geiriau".

Roedden nhw’n bwriadu defnyddio anufudd-dod sifil i greu aflonyddwch ond fe gawson nhw eu gyrru i wneud pethau mwy treisgar am nad oedd y llywodraeth yn gwneud dim byd.

Y swffragét a diwygiwr addysgol o Loegr y Fonesig Millicent Fawcett, (1847 - 1929), yn annerch cyfarfod yn Hyde Park fel llywydd Undeb Cenedlaethol Mudiadau’r Bleidlais i Fenywod (1913).
Image caption,
Y Fonesig Millicent Fawcett yn annerch cyfarfod yn Hyde Park yn 1913

Swffraget mwyaf amlwg Cymru oedd Margaret Haig Thomas. Fe wnaeth hi chwythu blwch postio i fyny yng Nghasnewydd i ddangos pa mor gryf roedd hi’n teimlo am hawl merched i bleidleisio. Cafodd ei danfon i’r carchar ond aeth hi ar streic newyn ac fe gafodd ei rhyddhau ar ôl pum diwrnod. Yn ddiweddarach daeth yn Lady Rhondda ac roedd hi’n fenyw fusnes a newyddiadurwraig llwyddiannus.

Doedden nhw dal heb ennill y bleidlais erbyn 1914, on dyna daeth y Rhyfel Byd Cyntaf. Pan aeth y dynion i ffwrdd i ymladd fe wnaeth llawer o ferched wneud swyddi tu allan i’r cartref am y tro cyntaf. Roedden nhw’n gweithio mewn siopau a swyddfeydd, ac ar ffermydd yn cynhyrchu bwyd mewn amser o brinder. Gweithiodd llawer mewn ffatrioedd arfau ac roedd rhai yn gwneud swyddi ar y llinell flaen nad oedd yn cynnwys ymladd.

Fe wnaethon nhw brofi eu bod nhw’n gallu gweithio yr un mor galed â dynion mewn ystod eang o swyddi ac eu bod nhw’n haeddu yr un hawliau.

Malala Yousafzai

Cafodd Malala Yousafzai ei geni yn Mingora, Pacistan yn 1997. Yn 2008, newidiodd ei byd pan gymerodd lluoedd y Taliban reolaeth o’i thref yn Nyffryn Swat. Fe wnaethon nhw wahardd pethau fel setiau teledu a chwarae cerddoriaeth, a chafodd merched eu gwahardd rhag mynd i’r ysgol.

Yn 2009, cafodd blog dienw Malala ei bostio ar BBC Urdu lle ysgrifennodd am:

  • fywyd o dan reolaeth y Taliban
  • ei hawydd i barhau â’i haddysg
  • ei dyhead i ferched gael cyfle i gael eu haddysgu a'r cyfle i ddysgu darllen ac ysgrifennu

Fe siaradodd hi’n gyhoeddus hefyd er waetha’r peryglon.

Ym mis Hydref 2012, fe wnaeth y Taliban ei chosbi am siarad o blaid hawl merched i gael addysg. Fe gafodd ei saethu gan ddyn mewn mwgwd wrth iddi deithio adref ar y bws ysgol.

Ar ôl cael triniaeth am ei hanafiadau ym Mhacistan, cafodd Malala ei hedfan i’r ysbyty yn Birmingham. Cafodd ei rhyddhau o'r ysbyty ym mis Ionawr 2013 ac fe arhosodd yn y DU gyda'i theulu. Aeth yn ei blaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen.

Mae Malala wedi parhau i hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod a phwysigrwydd addysg i ferched. Mae hi wedi sefydlu Cronfa Malala, elusen sydd am i bob merch gael 12 mlynedd o addysg. Mae’r gronfa yn gweithio mewn ardaloedd lle mae merched yn methu allan ar addysg uwchradd.

Fel cydnabyddiaeth o’i gwaith, derbyniodd Wobr Heddwch Nobel ym mis Rhagfyr 2014 – y personifancaf erioed i dderbyn gwobr Nobel.

Malala Yousafzai yn traddodi ei haraith dderbyn yn ystod seremoni Gwobr Heddwch Nobel yn Neuadd y Dref Oslo.
Image caption,
Malala Yousafzai yn traddodi ei haraith dderbyn yn ystod seremoni Gwobr Heddwch Nobel yn Neuadd y Dref Oslo

Targedau’r Cenhedloedd Unedig ar gydraddoldeb i fenywod

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau ar draws y byd gyda Chyrchnod Datblygu Cynaliadwy rhif pump. Mae hwn yn anelu at sicrhau cydraddoldeb rhywiol a grymuso pob menyw a merch erbyn 2030.

Mae ymrwymiadau rhyngwladol wedi'u gwneud ar gydraddoldeb rhywiol ac maen nhw wedi sicrhau gwelliannau mewn rhai meysydd. Mae nifer y plant sy’n priodi wedi lleihau ac mae rôl menywod o fewn llywodraethau wedi cynyddu yn ystod blynyddoedd diweddar.

I gyflawni’r cyrchnod hwn, mae’r Cenhedloedd Unedig wedi gosod targedau penodol, sy’n cynnwys:

  • dod â gwahaniaethu yn erbyn menywod a merched i ben ym mhobman
  • dileu pob math o drais yn erbyn menywod a merched, gan gynnwys ecsbloetio
  • dileu pob arfer niweidiol, fel priodasau plant, priodasau cynnar a phriodasau gorfodol
  • darparu gwasanaethau cyhoeddus, seilwaith a diogelwch cymdeithasol
  • sicrhau bod menywod yn gallu cymryd rhan a chael cyfle cyfartal mewn rolau arweinyddiaeth ac mewn bywyd cyhoeddus

More on Chwyldro

Find out more by working through a topic