Mae’r chwyldro egni gwyrdd yn golygu newid o losgi tanwyddau ffosil – olew, glo a nwy – i gynhyrchu egni glân gan ddefnyddio adnoddau adnewyddadwy.
Effeithiau newid hinsawdd
Mae newid hinsawdd yn ffenomenon sydd wedi bod yn digwydd yn naturiol am filiynau o flynyddoedd.
Gallwn ni weld tystiolaeth fod yr hinsawdd wedi newid yn y gorffennol wrth edrych ar:
- sut mae capiau iâ a rhewlifoedd wedi tyfu a chrebachu
- ffosiliau planhigion ac anifeiliaid oedd yn newid wrth i’r hinsawdd newid
- crynodiad carbon deuocsid mewn aer sydd wedi'i ddal mewn iâ am filoedd o flynyddoedd
Ond mae astudiaethau diweddar gan sefydliadau fel yr IPCC (Intergovernmental Panel on Climate Change) yn awgrymu bod gweithgarwch dynol wedi cyflymu cyfradd newid hinsawdd.
Yr effaith tŷ gwydrTrapio ynni’r haul oherwydd nwyon yn atmosffer y Ddaear sy’n gyrru newid hinsawdd gan fwyaf. Mae hwn yn cael ei achosi gan rai o’r nwyon yn yr atmosffer ac mae gweithgarwch dynol wedi cynyddu crynodiad y nwyon hyn.
O’r rhain, carbon deuocsid (CO₂) wedi ei gynhyrchu gan weithgarwch dynol sy’n cyfrannu fwyaf at gynhesu byd-eang. Ers dechrau’r chwyldro diwydiannolCyfnod o amser yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif lle symudodd y DU i ddod yn wlad llawer mwy diwydiannol gan ddibynnu mwy ar beiriannau a’r defnydd o lo ac olew yn y 18fed ganrif, mae mwy a mwy o garbon deuocsid wedi’i ryddhau i’r atmosffer.
Ymatebion i newid hinsawdd
Mae ymchwil gan wyddonwyr o NASA yn dangos bod y tymheredd cyfartalog byd-eang wedi codi o ychydig dros 1°C ers 1880. Mae mwy na hanner y cynhesu wedi digwydd ers 1975.
Mae llywodraethau a gwyddonwyr ar draws y byd yn fwyfwy pryderus am effaith newid hinsawdd wrth i’r Ddaear gynhesu. Mae rhai gwledydd eisoes yn profi tanau gwyllt, prinder bwyd a thywydd eithafol.
Mae gwledydd bellach yn cael eu hannog i leihau eu defnydd o danwyddau ffosil ac i gynhyrchu mwy o egni glân o adnoddau adnewyddadwy megis:
- celloedd solar
- gwresogi solar
- tonnau
- y llanw
- trydan hydro
- egni geothermol
Gwylio: Fideo chwyldro egni gwyrdd
Gwylia’r clip byr hwn i ddysgu mwy am y chwyldro egni gwyrdd.
Gyda’r argyfwng hinsawdd yn dod yn fwy o fygythiad bob dydd, falle dy fod ti ddim yn siŵr be’n union allwn ni wneud i ymladd yn ôl. Mae ‘na dipyn o waith eto i’w wneud. Dyna’r newyddion drwg. Y newyddion da? Rydyn ni yng nghanol chwyldro egni gwyrdd. Ac mae pethau yn cael eu gwneud. Ar sawl lefel wahanol. Wel, pedair lefel.
Yn gyntaf mae’r lefel ryngwladol. Dyma’r un mawr. Ers 1992, pan ddaeth newid hinsawdd i’r amlwg am y tro cynta, dechreuodd y Cenhedloedd Unedig annog eu haelodau i arwyddo cytundebau er mwyn defnyddio llai o nwyon niweidiol a lleihau effaith newid hinsawdd. Mae rhai o gyrchnodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn taclo’r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol - creu llai o garbon deuocsid (CO₂), lleihau’r defnydd o blastig, a gwneud yn siŵr bod dinasoedd a chymunedau - ie, ‘na ti - yn gynaliadwy. Gall cyrff rhyngwladol fel yr Undeb Ewropeaidd hefyd osod targedau. Ond mae’r pwysau ar wledydd unigol i’w dilyn nhw. Dyna pam mae cymaint o waith yn cael ei wneud ar ail lefel - lefel genedlaethol.
Er enghraifft, mae’r Deyrnas Unedig yn bwriadu diddymu ceir a faniau petrol a diesel traddodiadol yn raddol gan leihau’n fawr ar y llygredd o deithio. Ac mae llywodraeth Cymru wedi gaddo y byddant yn gwneud yn iawn am unrhyw lygredd erbyn 2050. Bydd y mwyafrif llethol o garbon a greir yma’n cael ei ganslo allan, drwy ddefnyddio pethau fel cynlluniau plannu coed, gan ddod â Chymru’n agosach at fod yn gyfrannwr sero net i newid hinsawdd.
Yn drydydd, mae’r lefel lleol. Bydd hyd yn oed dy gyngor lleol wedi sylwi ar newid hinsawdd. Ond dyw’r bysiau ddim yn brydlon, yn dal i fod. Mae cynghorau’n gyfrifol am gynlluniau ailgylchu. Falle dy fod ti’n defnyddio pum bin sbwriel gwahanol, ond mae’r blaned yn diolch i ti. Wir yr. Gall cymunedau bychain gymryd rheolaeth ar bethau. Mae Eco-Bentre Lammas yn Sir Benfro yn hunan-gynhaliol ac yn garbon-niwtral. Mewn geiriau eraill, mae’n gwireddu amcanion hinsawdd y llywodraeth, ychydig o ddegawdau o flaen eu hamser.
Gall grwpiau a chymunedau crefyddol helpu hefyd. Mae’r syniad ein bod ni i fod i amddiffyn y Ddaear yn gyffredin i sawl crefydd. Mae grwpiau fel Humanists UK hefyd yn ymuno â’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd - wrth godi ymwybyddiaeth a chymryd rhan mewn gorymdeithiau hinsawdd, am resymau cwbl anghrefyddol.
Yn olaf, mae’r lefel unigol. Sef ti. Gall hedfan llai, bwyta mwy o fwyd lleol, a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oll helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Ond mae rhai yn mynd ymhellach. Mae ffermwyr o Gymru yn ymladd yn ôl. Mae rhai yn gwneud yn iawn am unrhyw lygredd carbon drwy dyfu mwy o gynnyrch organig, ac mae rhai hyd yn oed yn cychwyn cynlluniau trydan dŵr ar eu tir.
Ac wrth gwrs, mae pobl ifanc yn cymryd llawer o’r baich. Diolch i streiciau hinsawdd, a’r pethau bychain mae pobl ifanc yn eu gwneud bob dydd, ry’n ni’n dechrau trafod. A gweithredu. Ar lefel leol, ar lefel genedlaethol yr holl ffordd i’r top. Rhyfedd sut mae’r pethau ‘ma’n gweithio.
Strategaethau chwyldro egni gwyrdd
Mae gwahanol strategaethau i ddelio â newid hinsawdd. Mae nifer ohonyn nhw’n gofyn am fyw ein bywydau mewn ffordd gynaliadwy.
Mae bod yn gynaliadwy yn golygu gallu diwallu ein hanghenion ein hunain heb beryglu cenedlaethau’r dyfodol, drwy sicrhau bod digon o adnoddau ar gael fel bod modd byw ar y Ddaear yn y dyfodol.
Gallwn ni wneud hyn ar ar bedair lefel wahanol:
- rhyngwladol
- cenedlaethol
- lleol
- unigol
Rhyngwladol
Dros y blynyddoedd, mae sawl cytundeb rhyngwladol wedi’i lunio er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Roedd Protocol Kyoto, y cytunwyd arno yn 1997 yn ymrwymiad gan 191 o wledydd a’r Undeb Ewropeaidd i leihau faint o nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu cynhyrchu, yn enwedig carbon deuocsid.
Roedd yn annog gwledydd sydd wedi datblygu i dorri mwy ar allyriadau CO₂ na gwledydd eraill gan mai nhw oedd y prif gynhyrchwyr yn y gorffennol. Roedden nhw’n cael eu hannog hefyd i fuddsoddi mewn technoleg newydd.
Cytundeb Paris a arwyddwyd yn 2016 yw’r y cyntaf erioed o’i fath. Mae’n dod â holl wledydd y byd at ei gilydd mewn un cytundeb i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Cenedlaethol
Ym mis Mawrth 2021, gosododd Senedd Cymru darged o allyriadau sero-netCydbwyso'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu cynhyrchu â'r swm sy'n cael ei dynnu o'r atmosffer erbyn 2050. Mae hyn yn golygu cydbwyso allyriaidau nwyon tŷ gwydr gyda faint o nwyon sy’n cael eu tynnu o’r atmosffer.
Mae nifer o nodau wedi'u gosod er mwyn cyflawni hyn. Rhaid plannu 43,000 hectar o goetir erbyn 2030, sy’n codi i 180,000 hectar erbyn 2050. Bydd hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth dynnu CO₂ o'r atmosffer.
Mae llywodraeth y DU wedi penderfynu rhoi diwedd ar werthu ceir petrol a diesel newydd erbyn 2035. Byddan nhw’n buddsoddi arian i greu pwyntiau gwefru ceir trydan ac ariannu ymchwil i dechnoleg batris.
Lleol
Mae cynghorau yn gweithredu cynlluniau ailgylchu.
Drwy ailgylchu mwy, gallwn ni leihau faint o gynhyrchion newydd sydd eu hangen. Bydd hyn yn arbed ar yr egni y byddai ei angen i'w creu.
Gallwn ni hefyd leihau faint o ddefnyddiau sy'n cael eu rhoi mewn safleoedd tirlenwi. Mae defnyddiau organig pan maen nhw’n dadelfennu yn cynhyrchu methan sy’n nwy tŷ gwydr cryf.
Mae enghreifftiau o brojectau cynaliadwy yn cynnwys:
- bedZED (Beddington Zero Energy Developments) – safle tai carbon-niwtral yn Hackbridge, Llundain
- Eco-Bentre Lammas – pentref yn Sir Benfro sy’n cynnwys naw tŷ a hwb cymunedol, ac sy’n hyrwyddo ffordd o fyw gwledig cynaliadwy
Unigol
Mae gwneud newidiadau bach i’n bywydau ein hunain yn gallu cael effaith ar gyfradd newid hinsawdd hefyd. Gall ystyried ac addasu'r bwydydd rydyn ni'n eu bwyta, y dillad rydyn ni'n eu gwisgo a’n dulliau o deithio leihau faint o nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu cynhyrchu.
Rydyn ni’n bwyta bwydydd o bob rhan o'r byd, fel bananas o Costa Rica ac orennau o Sbaen. Drwy brynu mwy o gynnyrch sy’n cael ei dyfu’n lleol gallwn ni leihau faint o danwydd ffosil sy’n cael ei losgi wrth eu cludo.
Mae bod yn fwy ymwybodol o sut rydyn ni'n teithio hefyd yn gallu lleihau allyriadau tŷ gwydr.Mae teithio mewn car yn creu llawer mwy o lygredd na cherdded, seiclo a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Byddai torri nôl ar hedfan hefyd yn creu buddion enfawr. Mae ymchwilwyr yn amcangyfrif bod awyrennau yn gyfrifol am gynhyrchu 1.04 biliwn tunnell o CO₂ yn 2018 - sef 2.5 y cant o gyfanswm allyriadau CO₂ y byd y flwyddyn honno.
Ymgyrchu amgylcheddol
Cyfeillion y Ddaear Cymru
Cafodd Cyfeillion y Ddaear Cymru ei ffurfio yn 1984 gyda'r nod o sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru. Maen nhw’n ymgyrchu ar faterion amgylcheddol ac yn codi ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd yng Nghymru.
Ers ei sefydlu, mae projectau Cyfeillion y Ddaear Cymru yn cynnwys:
- ymgyrchu i roi stop ar adeiladu ffyrdd diangen, fel ffordd osgoi drwy Eryri yn y 1990au
- lobïoDylanwadu ar benderfyniadau’r llywodraeth o ran polisïau a materion Llywodraeth Cymru a arweiniodd at osod targedau blynyddol i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr ac i gyflwyno cynllun gweithredu yn dilyn nifer o argymhellion a wnaed ganddyn nhw
Greta Thunberg

Mae llawer o bobl ifanc bellach yn dechrau gwrthwynebu’r systemau sydd ar waith ac yn mynnu bod gwledydd yn gwneud rhywbeth am newid hinsawdd.
Yr ymgyrchydd hinsawdd enwocaf yw Greta Thunberg. Mae hi eisiau i lywodraethau i weithredu gyda mwy o frys wrth daclo allyriadau niweidiol.
Dechreuodd hi ymgyrchu yn 2018 pan oedd hi’n 15 oed. Cynhaliodd brotest y tu allan i Senedd Sweden gan ddal arwydd "Skolstrejk för klimatet" ("Streic ysgol dros yr hinsawdd").
Mae hi wedi ysbrydoli pobl ifanc ledled y byd i gynnal protestiadau tebyg.
Yn 2019 hwyliodd hi ar draws Cefnfor yr Iwerydd i Efrog Newydd ar gyfer uwch gynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig. Fe wnaeth hi hynny mewn cwch heb allyriadau er mwyn lleihau ôl troed carbon ei thaith. Roedd hi am dynnu sylw at effaith hedfan ar newid hinsawdd a dangos bod “yr argyfwng newid hinsawdd yn rhywbeth go iawn.”


More on Chwyldro
Find out more by working through a topic
- count2 of 3

- count3 of 3
