FfracsiynauAdio a thynnu ffracsiynau

Mae ffracsiynau’n cynrychioli rhan o rif cyfan. Gall ffracsiynau, degolion a chanrannau i gyd rannu’r un gwerthoedd ac fe allai fod yn ddefnyddiol gwybod sut i drosi rhyngddyn nhw.

Part ofMathemategFfracsiynau

Adio a thynnu ffracsiynau

Mae’n anodd gweld beth fyddai’r ateb o adio \(\frac{1}{2}\) ac \(\frac{1}{3}\). Wrth ailysgrifennu’r ffracsiynau gyda rhif cyffredin ar y gwaelod (sef \({6}\) yn yr achos hwn) mae’n haws gweld yr ateb.

Felly, i adio neu dynnu ffracsiynau:

  1. Newidia’r ffracsiynau fel bod yr un rhif ganddyn nhw ar y gwaelod.
  2. Wedyn gelli di adio neu dynnu’r rhifau top.

Enghraifft

\(\frac{1}{2} + \frac{1}{3} = \frac{3}{6} + \frac{2}{6} = \frac{5}{6}\)

\(\frac{7}{10} - \frac{2}{5} = \frac{7}{10} - \frac{4}{10} = \frac{3}{10}\)

Question

Beth ydy \(\frac{1}{4} + \frac{1}{3} =~?\)

Diagram i ddangos 1/4 + 1/3 = ?

Rhifau cymysg

I adio rhifau cymysg, mae fel arfer yn haws trin y rhifau cyfan a’r ffracsiynau ar wahân:

Felly:

\({3}\frac{1}{3}+{4}\frac{1}{2}={7}+ \frac{1}{3}+\frac{1}{2} = {7}+\frac{2}{6}+\frac{3}{6}={7}\frac{5}{6}\)

Question

Cyfrifa \({6}\frac{4}{5}+{2}\frac{3}{10}\)

Gallwn ni dynnu yn yr un ffordd: \({3}\frac{4}{5}-{2}\frac{3}{10}={1}+\frac{4}{5}-\frac{3}{10} ={1}+\frac{8}{10}-\frac{3}{10}={1}\frac{5}{10}={1}\frac{1}{2}\)

Ond rhaid bod yn barod ar gyfer enghreifftiau ychydig mwy cymhleth:

\({4}\frac{1}{6}-{2}\frac{2}{3}={2}+ \frac{1}{6}-\frac{2}{3}={2}+\frac{1}{6}-\frac{4}{6}\)

Nawr rhaid ysgrifennu un o'r unedau fel ffracsiwn gyda \({6}\) ar y gwaelod:

\(={1}+\frac{6}{6}+\frac{1}{6}-\frac{4}{6}={1}\frac{3}{6}={1}\frac{1}{2}\)

Dull arall o adio a thynnu rhifau cymysg ydy eu newid yn ffracsiynau pendrwm:

\({3}\frac{1}{3}+{4}\frac{1}{2}=\frac{10}{3}+\frac{9}{2}=\frac{20}{6}+\frac{27}{6}=\frac{47}{6}= {7}\frac{5}{6}\)

Question

Cyfrifa \({5}\frac{3}{8}-{3}\frac{3}{4}\)