Ffracsiynau cywerth
Mae torri’r deisen yn chwe darn hafal a bwyta dau yn gywerth â thorri’r deisen yn dri darn hafal a bwyta un. Rwyt ti’n bwyta’r un faint o’r deisen yn y naill achos a’r llall.
Question
Os ydy’r deisen yn cael ei thorri'n \({12}\) darn hafal, sawl darn fydd yn rhaid eu bwyta er mwyn cael yr hyn sy’n gywerth â \(\frac{1}{3}\) o’r deisen?
Gefaist ti’r ateb \({4}\)?
\(\frac{4}{12} = \frac{2}{6} = \frac{1}{3}\)
Mae \(\frac{4}{12}\), \(\frac{2}{6}\) ac \(\frac{1}{3}\) i gyd yn ffracsiynau cywerth.
Mae \(\frac{1}{3}\) yn gywerth â \(\frac{2}{6}\) oherwydd mae’r rhifau ar y top a’r gwaelod wedi eu lluosi â \({2}\).
Mae \(\frac{4}{12}\) yn gywerth ag \(\frac{1}{3}\) oherwydd mae’r rhifau ar y top a’r gwaelod wedi eu rhannu â \({4}\).