Sefydlu Heddlu Metropolitan
Deddf Heddlu Metropolitan 1829 sefydlodd Heddlu Metropolitan yng nghanol Llundain. Roedden nhw'n gofalu am ardal â radiws o saith milltir o’r canol ac roedd hyn yn newid radical yn y cyfrifoldeb am orfodi cyfraith a threfn. Roedd Ceidwaid Bow Steet yn parhau i batrolio eu hardal, a’r tu allan i’r radiws o saith milltir nid oedd gan yr heddlu ddim awdurdod.
Er mai dim ond ar gyfer canol Llundain oedd yn y gyfraith hon, roedd hi'n bwysig gan mai dyma ddechrau'r heddlu modern.

Deddf Heddlu Metropolitan 1839
Roedd y ddeddf hon yn ymestyn ardal Heddlu Metropolitan i radiws o 15 milltir o ganol Llundain. Roedd hefyd yn diddymu awdurdod pob dull arall o blismona yn Llundain, megis Ceidwaid Bow Street, heddlu’r afon a Gwarchodwyr. Cynyddodd y niferoedd yn gyflym, ac erbyn 1882 roedd 11,700 o ddynion yn yr Heddlu Metropolitan.
Ymestyn heddluoedd ar draws y wlad yn y 19eg ganrif
Ar ôl i’r llywodraeth gymryd cyfrifoldeb am blismona ym mhrifddinas Lloegr drwy greu Heddlu Metropolitan, trowyd y sylw i weddill y wlad.
Roedd cyfres o ddeddfau yn rhoi grym i gynghorau sir a bwrdeistref ar draws y wlad i sefydlu heddluoedd yn eu hardaloedd:
- Rhoddodd Deddf Corfforaethau Trefol 1835 bŵer i drefi y tu allan i Lundain sefydlu eu heddluoedd eu hunain.
- Rhoddodd Deddf Heddlu Sirol 1839 bŵer i bob sir sefydlu eu heddluoedd eu hunain.
Nid oedd y ddwy ddeddf yn orfodol ac roedd cynghorau’n gallu eu hanwybyddu. Dim ond tua hanner yr ardaloedd oedd â’r gallu i sefydlu heddlu fanteisiodd ar y deddfau.
- Gorfododd Deddf Heddlu Sirol a Bwrdeistrefi 1856 i bob tref a sir sefydlu heddlu cyflogedig llawn amser. Roedd y ddeddf yn dweud y dylid cael un heddwas am bob 1,000 o bobl. Byddai’r Ysgrifennydd Cartref yn penodi Arolygwyr yr Heddlu i wneud yn sicr bod pawb yn ufuddhau i’r gyfraith ar draws y wlad. Pan fo tref neu sir yn sefydlu heddlu oedd yn dderbyniol gan yr Arolygwyr, roedd y llywodraeth yn talu peth o gostau’r heddlu, ac roedd y gweddill yn dod o drethi lleol.
Arweiniodd y deddfau yma at sefydlu cannoedd o heddluoedd ar draws y wlad. Nid oedd yr heddlu (ac nid ydyn nhw hyd heddiw) yn un heddlu unedig - roedden nhw'n heddluoedd ar wahân ar gyfer pob rhan o’r wlad.
Yr unig heddlu a reolwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref yn Llundain oedd Heddlu Metropolitan. Roedd gan bob heddlu brif gwnstabl, swyddogion a chwnstabliaid.
Erbyn hyn roedd plismona yn nwylo adrannau llywodraeth ganolog a lleol.
