Y cysyniad o heddluoedd yn y 19eg ganrif, a’u datblygiad
Datblygiadau yn y 18fed ganrif i’r cysyniad o blismona cyfundrefnol
Erbyn y 18fed ganrif daeth yn fwy ac yn fwy amlwg nad oedd y system o blismona oedd yn bodoli yn effeithiol. Roedd y gyfradd droseddu yn codi, ac roedd troseddau newydd yn datblygu. Roedd Ynadon yn aml yn llwgr. Fel arfer roedd Gwarchodwyr yn aneffeithiol ac yn aml nid oedd Cwnstabliaid yn hoffi beth roedd gofyn iddyn nhw ei wneud fel rhan o’r gwaith.
Roedd y cynnydd yn y boblogaeth, a thwf trefi, yn golygu ei bod yn anodd i amaturiaid di-dâl gadw cyfraith a threfn. Dechreuodd heddweision answyddogol, neu Cymerwyr Lladron, fel Charles Huitchen, wneud elw drwy ddal troseddwyr neu drefnu i ddychwelyd nwyddau wedi’u dwyn i’w perchnogion a hawlio gwobrau am wneud. Yn ddiweddarach, cafodd Jonathan Wild, cynorthwywr Huitchen, y llysenw Thief Taker General of Great Britain and Ireland. Ymddangosai fel petai’n plismona strydoedd Llundain yn wirfoddol, yn trosglwyddo troseddwyr i'r awdurdodau ac yn trefnu i'r nwyddau gael eu dychwelyd am elw. Ond ef a’i ddynion oedd y tu ôl i’r rhan fwyaf o’r achosion o ddwyn yn yr ardal.
Dechreuodd rhai unigolion ddatblygu syniadau am gyflogi heddlu wedi eu trefnu yn Llundain.
Y brodyr Fielding

Roedd yr hanner brodyr Henry a John Fielding yn Ynadon yn Bow Street yn Llundain. Daeth Henry Fielding yn brif ynad Llys Bow Street yn 1748. Ysgrifennodd adroddiad o’r enw An Enquiry into the Causes of the Late Increase of Robbers and Related Writings ynghylch y cynnydd mewn troseddu, ac fe’i cyhoeddwyd yn 1751. Roedd ei adroddiad yn nodi bod y gyfradd droseddu’n codi yn Llundain oherwydd bod pobl yn disgwyl bywyd hawdd ac yn troi at droseddu yn hytrach na gwaith, llygredd yn y llywodraeth a’r systemau plismona aneffeithiol.
Arwyddair Henry oedd “Quick notice and sudden pursuit”. Credodd mewn defnyddio'r cyhoedd, a gosododd hysbysebion mewn papurau newydd yn gofyn i bobl am eu cymorth. Dyma fynd ati eto i gynnwys y gymuned, ond bod y dull yn wahanol.
Sefydlodd Henry Fielding heddlu o gwnstabliaid cyflogedig oedd yn patrolio Llundain, o’r enw Ceidwaid Bow Street. Cychwynnodd hynny gyda chwe dyn, oedd yn swyddogion hyfforddedig a chyflogedig llawn amser. I ddechrau roedd y dynion yma’n cael eu talu gyda grant gan y llywodraeth, ond roedden nhw hefyd yn cael gwobrau am ddal troseddwyr yn yr un modd â’r maglwyr lladron. Erbyn 1800, roedd yna 68 o Geidwaid Bow Street yn Llundain.
Mae’r ffaith eu bod hefyd wedi derbyn grantiau gan y llywodraeth yn dangos bod llywodraeth ganolog yn dechrau ymwneud â phlismona. Roedden nhw hefyd yn canolbwyntio ar ddelio â throseddau penodol mewn ffordd drefnus.
Bu farw Henry yn 1754 a bu John, ei hanner-brawd dall, yn parhau â’i waith. Cafodd John grant gan y llywodraeth er mwyn sefydlu patrôl ceffylau er mwyn delio â chynnydd mewn lladrata pen ffordd. Er mai grant dros dro ydoedd, roedd yn arwydd fod y llywodraeth yn ymwneud fwyfwy â gorfodi cyfraith a threfn ac yn ymrwymo i plismona ataliolPlismona mewn ffordd sy'n anelu at atal pobl rhag troseddu..
Parhaodd John â syniad Henry o apelio i’r cyhoedd am help wrth ddatrys troseddau. Cyhoeddodd bapur newydd o’r enw The Quarterly Pursuit, a ailenwyd yn The Public Hue and Cry yn 1786, a chafodd ei gyhoeddi'n wythnosol. Roedd y papurau newydd yma yn cyhoeddi gwybodaeth am eiddo wedi’i ddwyn a throseddau a disgrifiadau o bobl dan amheuaeth. Daeth yn ffordd o rannu gwybodaeth am droseddau yn genedlaethol.
Ond, er gwaethaf eu llwyddiant, dim ond mewn rhan fechan o Lundain cafwyd y newidiadau yma. Nid oedden nhw wedi cael eu datblygu yng ngweddill y wlad. Ar y pryd roedd yna lawer o wrthwynebiad i’r cysyniad o heddlu sefydledig oherwydd:
- nid oedd pobl yn hoffi cost cynnal heddlu
- nid oedd y bobl yn hoffi’r syniad o godi trethi
- pryderon y byddid yn colli rhyddid ac y byddid yn amharu ar breifatrwydd

Y tu hwnt i Bow Street, roedd y cyfrifoldeb am blismona, gyda Chwnstabliaid, Gwarchodwyr ac Ynadon yn dal i fodoli.
Arweiniodd llwyddiant Ceidwaid Bow Street at fentrau eraill ar ôl marw’r brodyr Fielding.
- Yn 1792, roedd Deddf Ynadon Middlesex yn golygu bod saith Ynad Heddwch arall wedi cael eu hariannu i ymestyn Cynllun Bow Street i'w hardaloedd nhw. Arweiniodd hyn at 68 o Geidwaid Bow Street yn Llundain erbyn 1800.
- Yn 1798, sefydlwyd Heddlu Afon Tafwys. Dyma ganlyniad dylanwad Ynad Heddwch arall, sef Patrick Colquhoun.
- Yn 1805, sefydlwyd patrôl ceffylau eto. Roedd ganddo 54 o swyddogion. Dywedid bod y rheini’n debyg i robin goch oherwydd y lifrai coch.
Ond roedd gwaith a dylanwad Fielding wedi’i gyfyngu i rannau o Lundain yn unig – roedd yr un hen system, sef Ynad Heddwch a chwnstabliaid, yn dal i fodoli ymhob man arall.
Y cysyniad o heddlu cyfundrefnol yn ystod y 19eg ganrif

Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd yna gefnogaeth gynyddol i’r cysyniad o heddlu llawn amser proffesiynol wedi ei ariannu gan y wladwriaeth. Yn 1800, mabwysiadodd Glasgow gynllun i drefnu Cwnstabliaid a Gwarchodwyr yn llu i warchod y ddinas. Roedd Syr Robert Peel, Yr Ysgrifennydd Cartref, yn cefnogi'r syniad bod y llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb am drefnu plismona. Ond roedd y syniad yn dal yn un dadleuol.
Oherwydd bod y gyfradd droseddu yn codi, yn arbennig yn y trefi diwydiannol ac yn Llundain, roedd Peel yn dadlau bod angen newid y dull o blismona. Roedd pobl yn fwy a mwy ymwybodol bod y rhan fwyaf o’r dulliau oedd eisoes yn bodoli o ddal troseddwyr (Ynadon, Cwnstabliaid a Charlies) yn aneffeithiol, yn enwedig yn sgil y newidiadau diwydiannol ac amaethyddol anferthol a’r newid o ran y boblogaeth a ddigwyddodd yr adeg hynny. Roedd y twf mewn protestio poblogaidd yn ddigon i berswadio nifer bod angen heddlu proffesiynol. Dangosodd digwyddiadau megis Cyflafan Peterloo yn 1819 bod yna wendid i ddibynnu ar y fyddin i ddelio â phrotestiadau cyhoeddus.
Wrth edrych yn ôl, mae’n amlwg bod llawer o bobl yn gwrthwynebu’r syniad fod yr heddlu’n cael ei redeg gan y wladwriaeth oherwydd roedden nhw’n credu y byddai’n fygythiad i ryddid. Roedd pobl yn credu y byddai’r llywodraeth yn defnyddio’r heddlu i orfodi pobl i wneud beth bynnag yr oedden nhw'n ei ddymuno. Gwelwyd hynny mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Roedd pobl yn credu y byddai’r heddlu yn fusneslyd ac yn ymyrryd ym musnes pobl. Roedd llawer yn glynu wrth y syniad, a oedd wedi parhau ers yr oesoedd canol, y dylai pobl orfodi'r gyfraith eu hunain. Ond, y cynnydd mewn trethi er mwyn talu am yr heddlu oedd y prif reswm dros eu gwrthwynebiad.