Beth mae Cristnogaeth yn ei ddysgu am ddrygioni a dioddefaint?
Byddai drygioni a dioddefaint yn gallu gwneud i Gristnogion amau yw Duw yn hollalluogNatur hollrymusol a diddiwedd Duw., yn hollgariadusAnfeidrol dda a chariadus - nodwedd a briodolir yn aml i Dduw., neu'n hollwybodaethNatur hollwybodus Duw.. Er enghraifft:
- Pe bai Duw yn gallu gwneud popeth, pam na fyddai'n atal trychinebau naturiol?
- Pe bai Duw yn caru popeth, pam na fyddai'n atal dioddefaint?
- Pe bai Duw yn gwybod popeth, oni fyddai'n gwybod bod pobl yn mynd i wneud rhywbeth drwg ac yn eu hatal nhw?
Weithiau bydd Cristnogion yn rhoi un neu fwy o'r atebion canlynol:
- Mae Duw wedi rhoi ewyllys ryddY gallu i wneud dewisiadau (yn enwedig dewisiadau moesol) yn wirfoddol ac yn annibynnol. Y gred nad oes unrhyw beth wedi'i ragordeinio. i bobl. Mae wedi dangos i bobl bod rhaid iddyn nhw ufuddhau i'r Y Deg GorchymynY rhestr o reolau y datguddodd Duw i Moses, sydd yn llyfrau Exodus a Deuteronomium yn yr Hen Destament. Mae'r Beibl yn cyfeirio at y Deg Gorchymyn yn syml fel 'dywediadau' neu 'ddatganiadau'. Enwau eraill ar y Deg Gorchymyn yw y Deg Dywediad neu'r Dengair. a dilyn bywyd a dysgeidiaeth Iesu. Yna, lle bodau dynol yw penderfynu dilyn cyfarwyddiadau Duw neu beidio.
- Mae gan Dduw gynllun ar gyfer bywydau pobl, ac efallai na fyddan nhw'n ei ddeall bob amser. Efallai bydd hyn yn cynnwys drygioni a dioddefaint, ond dylai Cristnogion ymddiried yng nghynllun Duw a chadw ffydd.
- Mae Duw eisiau i bobl ddilyn enghraifft Iesu a helpu pobl sy'n dioddef. Rhaid bod gan Dduw reswm dros ganiatáu drygioni a dioddefaint, ond mae'r rheswm y tu hwnt i ddealltwriaeth bodau dynol.
- Mae Cristnogion hefyd yn gweddïo dros bobl sy'n dioddef ac yn ceisio eu helpu nhw.
- Mae drygioni a dioddefaint yn y bywyd hwn yn ffordd o baratoi ar gyfer y NefoeddLle neu gyflwr meddwl, sy'n gysylltiedig â Duw a bywyd ar ôl marwolaeth.. Mae drygioni a dioddefaint yn rhoi cyfle i bobl i fod yn bobl well a gwella eu heneidiau. Maen nhw'n credu y bydd Duw yn eu gwobrwyo nhw yn y Nefoedd.